Cothnais
Sir hanesyddol, sir cofrestru, ac ardal rhaglawiaeth yn Yr Alban yw Cothnais (Saesneg: Caithness; Gaeleg yr Alban: Gallaibh;[1] Sgoteg: Caitnes).[2]
Math | registration county, lieutenancy area of Scotland, Ardal yn yr Alban, sir hanesyddol y Deyrnas Unedig, siroedd yr Alban |
---|---|
Prifddinas | Wick |
Poblogaeth | 26,486 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cyngor yr Ucheldir, Yr Alban |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 618 mi² |
Yn ffinio gyda | Swydd Sutherland |
Cyfesurynnau | 58.4167°N 3.5°W |
Mae Cothnais yn ffinio gyda’r sir hanesyddol Sutherland ac fel arall yn ffinio gyda’r môr. Mae ffin y tir yn dilyn cefn deuddwr ac mae’n cael ei groesi gan ddwy ffordd, yr A9 a’r A836, ac un rheilffordd sef Rheilffordd y Gogledd Pell. Ar draws y Pentland Firth mae fferïau yn cysylltu Cothnais â’r Ynysoedd Erch, ac mae ganddi awyrborth yn Wick. Mae’r ynys Stroma o fewn Cothnais.
Enw
golyguDaw’r elfen ’Caith’ yn Caithness o enw’r llwyth Pictaidd a elwir yn Cat neu Catt. Daw’r elfen ‘-ness’ o’r Hen Norseg am ‘bentir’. Roedd y Llychlynwyr yn galw’r ardal yn ‘Katanes’,[3] sef ‘pentir pobl y Catt’.
Ystyr yr enw Gaeleg am Gothnais, Gallaibh, yw ‘ymhlith y dieithriaid’, hynny yw, y Llychlynwyr.
Daearyddiaeth
golyguMae arfordir Cothnais yn gartref i nythfeydd mawr, rhyngwladol bwysig o adar môr, ac mae dyfroedd Pentland Firth a Môr y Gogledd yn cynnal amrywiaeth fawr o fywyd morol. Yng Nghothnais mae’r ehangder mwyaf o orgors yn Ewrop.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2020-10-29 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 12 Ebrill 2022
- ↑ "Names in Scots", Centre for the Scots Leid; adalwyd 12 Ebrill 2022
- ↑ Gaelic and Norse in the Landscape: Placenames in Caithness and Sutherland Archifwyd 2011-09-21 yn y Peiriant Wayback. Scottish National Heritage. tt.7–8