Molwsg morol o'r teulu Nautilidae o seffalopodau yw cragen Bedr neu nawtilws a ddosberthir mewn chwe rhywogaeth yn y genera Nautilus ac Allonautilus.

Nautilus pompilius

Canfyddir pedair rhywogaeth y Nautilus yn ne'r Cefnfor Tawel: Nautilus belauensis ger Palaw, Nautilus macromphalus ger Caledonia Newydd, Nautilus stenomphalus yn y Bariff Mawr, a Nautilus pompilius oddi ar arfordir dwyreiniol Awstralia, Micronesia, a mor bell i'r gogledd â Japan. Gwyddys am ddwy rywogaeth ddiflanedig, Nautilus cookanum a Nautilus praepompilius.

Mae dwy rywogaeth yr Allonautilus yn byw yn nyfroedd dwfn ym Melanesia ac Ynysoedd Swnda Lleiaf. Un o anifeiliaid prinnaf y byd ydy Allonautilus scrobiculatus, neu'r gragen Bedr grych, a ddarganfuwyd yn nwyrain Gini Newydd yn 1984. Ni chafwyd hyd i enghraifft o Allonautilus perforatus eto oni bai am gregyn gweigion ger ynys Bali.

Mae'r seffalopod a elwir cragen Bedr bapur, er ei fod yn edrych yn debyg i gragen Bedr, yn fath o octopws.