Un o ddeiliaid ffederal Rwsia yw Crai Khabarovsk (Rwseg: Хаба́ровский край, Khabarovsky kray; 'Khabarovsk Krai'). Canolfan weinyddol y crai (krai) yw dinas Khabarovsk. Poblogaeth: 1,343,869 (Cyfrifiad 2010).

Crai Khabarovsk
Mathkrai of Russia Edit this on Wikidata
PrifddinasKhabarovsk Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,301,127 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 20 Hydref 1938 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethSergei Ivanovich Furgal Edit this on Wikidata
Cylchfa amserVladivostok Time, Asia/Vladivostok Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iHyōgo Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Rwseg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDosbarth Ffederal y Dwyrain Pell Edit this on Wikidata
SirRwsia Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd787,633 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaOblast Ymreolaethol Iddewig, Oblast Amur, Gweriniaeth Sakha, Oblast Magadan, Oblast Sakhalin, Crai Primorsky, Heilongjiang Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.8°N 136.83°E Edit this on Wikidata
RU-KHA Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Governor of Khabarovsk Krai Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethSergei Ivanovich Furgal Edit this on Wikidata
Map
Baner Crai Khabarovsk.
Lleoliad Crai Khabarovsk yn Rwsia.

Lleolir y crai yn rhanbarth gweinyddol Dosbarth Ffederal y Dwyrain Pell. Mae'r rhan fwyaf o'r crai yn gorwedd yn rhan isaf basn Afon Amur yn Nwyrain Pell Rwsia gyda rhan sylweddol arall ar arfordir mynyddog Môr Okhotsk, sy'n fraich o'r Cefnfor Tawel. Mae'n ffinio gyda Oblast Magadan yn y gogledd, Gweriniaeth Sakha ac Oblast Amur yn y gorllewin, gyda'r Oblast Ymreolaethol Iddewig, Gweriniaeth Pobl Tsieina, a Crai Primorsky yn y de, a glan Môr Okhotsk yn y dwyrain. Ceir tirwedd taiga a twndra yn y gogledd a fforestydd coed collddail yn y de.

Sefydlwyd Crai Khabarovsk ar 20 Hydref, 1938, yn yr hen Undeb Sofietaidd.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.