Agor y brif ddewislen

Gwlad drawsgyfandirol sy'n ymestyn dros ran fawr o ogledd Ewrasia (Ewrop ac Asia) yw Ffederasiwn Rwsia (Rwsieg: Росси́йская Федера́ция, Rossiyskaya Federatsiya) neu Rwsia (Росси́я, Rossiya). Gydag arwynebedd o 17,075,400 km², y wlad fwyaf o lawer yn y byd yw Rwsia, gan orchuddio bron ddwywaith arwynebedd y wlad ail fwyaf, sef Canada. Mae gan Rwsia adnoddau enfawr mwynau ac ynni, yn ogystal â'r boblogaeth nawfed fwyaf yn y byd. Mae Rwsia yn rhannu ffiniau tir â'r gwledydd canlynol (yn wrthglocwedd, o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain): Norwy, y Ffindir, Estonia, Latfia, Lithwania, Gwlad Pwyl, Belarws, Wcrain, Georgia, Aserbaijan, Casachstan, Tsieina, Mongolia a Gogledd Corea. Mae hi hefyd yn agos i'r Unol Daleithiau (talaith Alaska), Sweden a Siapan dros gulforoedd eithaf cul (Culfor Bering, y Môr Baltig, a Chulfor La Pérouse, yn ôl eu trefn).

Rwsia
Coat of Arms of the Russian Federation.svg

Российская Федерация

Rossyîskaia Ffederatsyîa
Flag of Russia with border.svg
Math gwladwriaeth sofran Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Rws Kiefaidd Edit this on Wikidata
Prifddinas Moscfa Edit this on Wikidata
Poblogaeth 146,804,372 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Anthem Gimn Rossiyskoy Federatsii Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Dmitry Medvedev Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+2 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Rwseg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Cyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Arwynebedd 17,125,191 km², 17,125,200 km² Edit this on Wikidata
Gerllaw Y Môr Baltig, Y Cefnfor Tawel, Cefnfor yr Arctig, Y Môr Du Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Aserbaijan, Belarws, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Estonia, Y Ffindir, Georgia, Casachstan, Latfia, Lithwania, Gogledd Corea, Norwy, Republic of Abkhazia, Japan, Unol Daleithiau America, Yr Wcráin, Mongolia, Gwlad Pwyl, De Osetia, Gweriniaeth Pobl Luhansk, Gweriniaeth Pobl Donetsk, Yr Undeb Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 62°N 100°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredol Llywodraeth Rwsia Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaethol Cynulliad Ffederal Ffederasiwn Rwsia Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Rwsia Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaeth Vladimir Putin Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Rwsia Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Dmitry Medvedev Edit this on Wikidata
LocationRussia.svg
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP) 1,577,524 million $ (UDA) Edit this on Wikidata
CMC y pen 10,749 $ (UDA) Edit this on Wikidata
Arian Rŵbl Rwsiaidd Edit this on Wikidata
Wrth gefn 432,730,507,964 $ (UDA) Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant 1.7 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol 0.816 Edit this on Wikidata

Gynt yn Weriniaeth Sofietaidd Ffederal Sosialaidd Rwsia (GSFfSR), gweriniaeth o'r Undeb Gweriniaethau Sofietaidd Sosialaidd (UGSS), daeth Rwsia yn Ffederasiwn Rwsia yn sgil diddymiad yr Undeb Sofietaidd yn Rhagfyr 1991. Ar ôl y cyfnod Sofietaidd, trosglwyddwyd arwynebedd, poblogaeth a chynhyrchiad diwydiannol a oedd wedi'u lleoli yn Rwsia i Ffederasiwn Rwsia.

Ar ôl ymddatodiad yr Undeb Sofietaidd, daeth Ffederasiwn Rwsia newydd annibynnol yn bŵer mawr, ac ystyrir hefyd bod y wlad yn archbŵer ynni. Ystyrir bod Rwsia yn wladwriaeth olynydd i'r Undeb Sofietaidd mewn materion diplomyddol. Aelod parhaol o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yw hi. Mae hefyd yn un o'r pum gwladwriaeth sydd ag arfau niwclear wedi'u cydnabod, ac mae'n meddu ar y stoc fwyaf o arfau eangddinistr yn y byd. Cenedl arweiniol o Gymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol yw Rwsia, ac mae'n aelod o'r G8 yn ogystal â chyrff rhyngwladol eraill.

Gweler hefydGolygu

Chwiliwch am Rwsia
yn Wiciadur.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.