Craig yr Ysfa

clogwyn yn Nolgarrog

Clogwyn mawr yn y Carneddau, Eryri, yw Craig yr Ysfa. Mae'n gorwedd yn rhan uchaf Cwm Eigiau islaw Bwlch Eryl Farchog, sydd ar y grib rhwng Pen yr Helgi Du a Charnedd Llywelyn, yn Sir Conwy. Mae'n tua 2,000 troedfedd uwch lefel y môr yn wynebu'r gogledd-ddwyrain; uchder tua 800 troedfedd.[1] Mae gan y clogwyn hwn le pwysig yn hanes cynnar dringo yng Nghymru.

Craig yr Ysfa o Fwlch Eryl Farchog.
Craig yr Ysfa a Chwm Eigiau yn y gaeaf.

Dringo

golygu

Mae'r clogwyn yn cynnig dringo yn yr haf a'r gaeaf ond er nad yw'n cael ei ystyried yn ddringo anodd yn ôl safonau heddiw mae'r clogwyn yn fawr a'r lle yn anghysbell ac felly'n anodd i'w gyrraedd gan achubwyr pe bai damwain yn digwydd. Rhennir y clogwyn yn ddau gan gyli syrth yn ei ganol.

Bu'r arloeswyr dringo y brodyr Abraham yn dringo yma ar ddechrau'r 20g gan osod safonau newydd am y cyfnod.

Mae'r dringfeydd "clasurol" yn cynnwys:[1]

  • 'Amphitheatre Buttress' (970 troedfedd). Dringwyd am y tro cyntaf gan y brodyr Abraham yn 1905.
  • 'Great Gully' (800 troedfedd). Dringwyd am y tro cyntaf yn 1900.
  • 'Mur y Niwl' (255 troedfedd). Dringwyd am y tro cyntaf yn 1952.
  • Ar draws gwaelod 'Mur yr Amffitheatr' (475 troedfedd). Dringwyd am y tro cyntaf yn 1966: Wilkinson, Ron James.
  • 'Pinnacle Wall' (235 troedfedd). Dringwyd am y tro cyntaf yn 1931.
  • 'The Grimmett' (155 troedfedd). Dringwyd am y tro cyntaf yn 1938.

Yn ogystal ceir digon o "sgramblio" ar gyrrion y clogwyn.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Ron James, Rock Climbing in Wales (Constable, 1975).
  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.