Mae Crash Bandicoot yn gyfres o gemau fideo platfform a ddatblygwyd gan Radical Entertainment ac a gyhoeddwyd gan Sierra Entertainment i'w chware ar beiriannau PlayStation. Cynhyrchiwyd y gemau Crash Bandicoot gyntaf gan y cwmni gemau fideo Naughty Dog. Ers hynny, rhoddwyd y gyfres i lawer o wahanol gwmnïau cyn iddo gael ei chadw gan Radical Entertainment. Mae'r gemau wedi eu lleoli yn Ynysoedd Wumpa ffuglennol yn ne Awstralia. Cynhyrchiwyd 18 o gemau Crash Bandicoot rhwng 1996 a 2007 gyda gwerthiant cyfansawdd o 40 miliwn o gopïau

Prif gymeriad y gêm yw creadur o'r enw Crash Bandicoot.

Gemau cwmni Naughty Dog

golygu

Cynhyrchiwyd gêm cyntaf Crash Bandicoot gan gwmni Naughty Dog ym 1996. Enw'r gêm cyntaf oedd Crash Bandicoot. Stori'r gem oedd ymgyrch Crash, y cymeriad, i achub ei gariad Tawna o grafangau'r Dr Neo Cortex annhelediw, gythreilig.

Wedi Crash Bandicoot, cynhyrchodd cwmni Naughty Dog gêm dilynol, Crash Bandicoot 2: Cortex Strikes Back, lle mae Crash yn ceisio gwarchod y byd rhag anfadwaith Dr Cortex eilwaith.

Yn nhrydedd gêm y gyfres, Crash Bandicoot 3: Warped, mae Crash eto yn ceisio trechu Cortex a'i gyfaill Uka Uka, sy'n ceisio orchfygu'r byd gyda chymorth Nefarious Tropy, perchennog peiriant symud trwy amser.

Roedd pedwaredd cynhyrchiad Cwmni Naughty Dog i gynnwys Crash a'i gyfeillion oedd Crash Team Racing, gem rasio go-cart lle fu'r cymeriad Nitrous Oxide, creadur arallfydol, yn herio pobl y byd i ras er mwyn diogelu'r planed.

Gemau wedi Naughty Dog

golygu

Wedi i gytundeb Naughty Dog dod i ben bu cwmnïau eraill yn gwneud gemau yn cynnwys y cymeriad ac yn cyhoeddi'r gemau i'w chware ar beiriannau amgen i'r PlayStation

Rhestr o gemau Crash Bandicoot gan gwmnïau eraill
golygu
  • Crash Bash (US - NTSC & EU - PAL) / Crash Bandicoot Carnival (Giappone) (PlayStation - 2000)
  • Crash Bandicoot: The Wrath of Cortex (PlayStation 2, GameCube, Xbox - 2001)
  • Crash Bandicoot: The Huge Adventure (US - NTSC) / Crash Bandicoot XS (EU - PAL) (Game Boy Advance - 2002)
  • Crash Bandicoot 2: N-Tranced (US - NTSC & EU - PAL) (Game Boy Advance - 2003)
  • Crash Nitro Kart (PlayStation 2, GameCube, Xbox, Game Boy Advance, N-Gage - 2003)
  • Crash Bandicoot Purple: Ripto's Rampage (US - NTSC) / Crash Bandicoot Fusion (EU - PAL) (Game Boy Advance, 2004)
  • Crash Twinsanity (PlayStation 2, Xbox - 2004)
  • Crash Tag Team Racing (PlayStation 2, Xbox, GameCube, PlayStation Portable - 2005)
  • Crash Boom Bang! (Nintendo DS - 2006)
  • Crash of the Titans. (Nintendo DS PlayStation 2, Xbox 360, Wii, PlayStation Portable - 2007)
  • Mind over Mutant (Nintendo DS PlayStation 2, Xbox 360, Wii, PlayStation Portable - 2008 )
  • Nitro Kart 3D (iPhone / iPod Touch - 2008 Mutant Island (Ffôn symudol Java ME / BlackBerry – 2009)
  • Nitro Kart 2 (Ffôn symudol Java ME - 2010)
  • N. Sane Trilogy - (PlayStation 4 - 2017)