Creigiau Gwineu
Bryn yng Ngwynedd gyda bryngaer ar ei gopa yw Creigiau Gwineu. Fe'i lleolir ger pentref Rhiw yn ardal penrhyn Llŷn.
Math | caer lefal |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.8155°N 4.6308°W |
Cod OS | SH22802746 |
Bryngaer
golyguBryngaer fychan o gyfnod y Celtiaid sy'n dyddio yn ôl pob tebyg o Oes yr Haearn, cyn dyfodiad y Rhufeiniaid yw bryngaer Creigiau Gwineu. Yn y cyfnod hwnnw roedd penrhyn Llŷn yn cael ei drigiannu gan lwyth Celtaidd y Gangani. Ceir mur o gerrig o'i hamgylch gyda mur mewnol sy'n ei rhannu'n ddwy ran. Saif y brif fynedfa mewn ceunant naturiol ar ei hochr orllewinol.[1]
Amgylchynir y gaer gan rwydwaith o gaeau cynhanesyddol gyda olion canoloesol drostynt hefyd.[1]
Cadwraeth
golyguNid yw'r fryngaer hon wedi ei chofrestru gan Cadw (gweler Rhestr o fryngaerau wedi'u cofrestru).