Agor y brif ddewislen
Bryngaer Dunadd yn Argyll, Yr Alban.

Caer a adeiladwyd ar ben bryn fel adeilad amddiffynol yw bryngaer. Mae ei ffurf yn dilyn ffurf y bryn a fel arfer mae rhagfur a ffos o'i gwmpas. Codwyd bryngaerau mewn cyfnodau wahanol ac i bwrpas wahanol (nid yn unig am amddiffyn, ond i gadw anifeiliaid, hefyd), ond yng Nghymru adeiladwyd mwyafrif ohonynt yn yr Oes Haearn, er enghraifft Bryngaer Llwyn Bryn-dinas ger Llangedwyn, y Breiddin, Moel y Gaer, Llandysilio a'r mwyaf drwy ogledd-orllewin Ewrop, sef Tre'r Ceiri. Mae bryngaerau ledled Ewrop a chyfandiroedd eraill hefyd, er enghraifft codwyd rhai yn Seland Newydd gan y Maori.

Cynnwys

Bryngaerau Canolbarth EwropGolygu

Mae bryngaerau hynaf canolbarth Ewrop yn dyddio o'r oes Neolithig, ond mae'r mwyafrif yn dyddio o gyfnod y diwylliant Urnfield yn Oes yr Efydd) a'r diwylliant Hallstatt yn Oes yr Haearn, ond adeiladwyd rhai ar ôl goruchafiaeth yr Ymerodraeth Rufeinig, hefyd. Roedd Iŵl Cesar yn crybwyll y bryngaerau Celtaidd a welodd yn ystod ei ymgyrchoedd o dan yr enw oppida.

Bryngaerau Prydain ac IwerddonGolygu

Cartrefi a gwersyllfeydd milwrol o Oes yr Haearn cyn y goresgyniad Rhufeinig yw bryngaerau Prydain. Defnyddiwyd rhai eto yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur y bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43. Yn yr ardaloedd lle na chafwyd dylanwad Rhufeinig (e.e. yn Iwerddon a gogledd yr Alban) adeiladid bryngaerau am ganrifoedd ar ôl hynny. Defnyddiodd yr Eingl-Sacsoniaid rhai o'r hen fryngaerau yn Lloegr yn ystod goresgyniad y Llychlynwyr.

CymruGolygu

Gweler hefyd: Rhestr o fryngaerau Cymru a Rhestr o fryngaerau Cymru yn ôl eu maint.

 
Awyrlun o fryngaer Dinas Dinlle

Mae bron i 600 o fryngaerau yng Nghymru yn amrywio'n fawr o ran maint o'r caerau bychain yn ne Cymru i gaerau aferthol gororau gogledd Cymru. Roeddent yn cael eu datblygu gan y brodorion o amser eu codi (sy'n amrywio hefyd) a thros y blynyddoedd ychwanegwyd tiroedd ac amddiffynfeydd atynt. Mae rhai'n dyddio'n ôl i'r Oes Efydd diweddar gyda'r rhan fwyaf o fryngaerau Cymru'n perthyn i'r cyfnod 500-100 CC, sef yr Oes Haearn.

Roedd llawer ohonynt e.e. Bryngaer Dinorben (Abergele) yn dal i gael eu defnyddio yn y cyfnod Rhufeinig.

LloegrGolygu

Ceir dros 1,350 bryngaer yn Lloegr[1] gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn y de a'r dwyrain, yn enwedig yng Nghernyw a Dyfnaint lle ceir 285 ohonynt. Er i rai ohonyn nhw gael eu cloddio yn ystod yr Oes Efydd, yn Oes yr Haearn y codwyd y rhan fwyaf ohonynt h.y. am yr wyth ganrif cyn dyfodiad y Rhufeiniaid. Un o'r mwyaf yw Maiden Castle (Dorset) sy'n 44 erw (18 ha)[2]

IwerddonGolygu

 
Caer Navan, Swydd Armagh, Iwerddon.

Ceir 40 o fryngaerau yn Iwerddon, gyda'r rhan fwyaf ohonyn nhw rhwng 5 - 10 erw.

Bryngaerau yn FfraincGolygu

Mae Bibracte (Mont Beuvray) a Mont St. Odile (Mur Païen) yn fryngaerau enwog yn Ffrainc ac mae gwarchae bryngaer Alesia lle cafodd Vercingetorix ei orchfygu gan Iŵl Cesar yn enwog iawn hefyd.

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Forde-Johnston (1976), tud. 1.
  2. Gwefan British History Online