Band Cymraeg o ardal Caernarfon, Gwynedd oedd Creision Hud.

Dechreuodd y band pan oedd yr aelodau yn ddisgyblion yn Ysgol Syr Hugh Owen. Pedwar aelod oedd i'r band - Rhydian Lewis, Ifan Williams, Siôn Llwyd a Cai Llwyd.

Daeth y band ifanc i amlygrwydd fel enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2007 yn Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint a'r Cyffiniau. Un o'r gwobrau oedd recordio Sesiwn C2.

Yn 2009, enillodd y grŵp Wobr am y Sesiwn Orau ar C2 yng Ngwobrau RAP Radio Cymru.

Yn 2011 bu'r grŵp yn gweithio ar brosiect gwreiddiol ac uchelgeisiol i ryddhau sengl newydd bob mis yn 2011. Mae digon o grwpiau'n gyfarwydd â rhyddhau 12 o ganeuon ar unwaith ar ffurf albwm, ond mae'r cysyniad o ryddhau 12 sengl dros 12 mis yn un newydd i'r sîn Gymraeg. Llwyddodd y Creision i ddenu cryn sylw am y gamp hon gyda chaneuon fel "Indigo", "Pyramid" a "Bedd" (sy'n atgoffa dyn o gitars melodig, "GodSpeed"), yn arbennig yn denu cryn glod.

Newidiwyd enw'r band i Hud yn 2012.

Disgyddiaeth

golygu

Senglau

golygu
  • Pyramid (2011)
  • Ifanc (2011)
  • Satellite (2011)
  • Cyllell (2011)
  • Bedd (2011)
  • Colli Cwch (2011)
  • Indigo (2011)
  • She Said (2011)
  • Cysgod y Cyrion (2011)
  • Photo (2011)
  • Llygaid Gwan (2011)

Dolenni allanol

golygu