Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007 ar safle Pentrehobyn ar gyrion yr Wyddgrug, Sir y Fflint, rhwng 4 a 11 Awst 2007.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007
 ← Blaenorol Nesaf →
Lleoliad Pentrehobyn ar gyrion yr Wyddgrug
Cynhaliwyd 4-11 Awst 2007
Archdderwydd Selwyn Iolen
Daliwr y cleddyf Robin o Fôn
Cadeirydd Aled Lloyd Davies
Nifer yr ymwelwyr 154,944
Enillydd y Goron Tudur Dylan Jones
Enillydd y Gadair T. James Jones
Gwobr Daniel Owen Tony Bianchi
Gwobr Goffa David Ellis Robyn Lyn Evans
Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn Rhian Evans
Gwobr Goffa Osborne Roberts Llio Eleri Evans
Gwobr Richard Burton Gwion Aled Williams
Y Fedal Ryddiaith Mary Annes Payne
Medal T.H. Parry-Williams Elsie Nicholas
Tlws Dysgwr y Flwyddyn Julie MacMillan
Tlws y Cerddor Wyn Pearson
Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts Gwawr Edwards
Medal Aur am Gelfyddyd Gain Emrys Williams
Medal Aur am Grefft a Dylunio Neb yn deilwng
Gwobr Ivor Davies Jack Burton / Carwyn Evans
Gwobr Dewis y Bobl Katie Allen
Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc Jack Burton
Medal Aur mewn Pensaernïaeth Penseiri Loyn & Co
Ysgoloriaeth Pensaernïaeth Rhian Barker
Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg Iolo Wyn Williams
Maes y Steddfod, 2007

Hon oedd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf i'w chyllido yn rhannol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dan drefniant newydd yn hytrach na bod yr Eisteddfod yn disgwyl cyfraniad sylweddol gan y Cyngor Sir lleol. Mae'n debyg i 154,944 o bobl ymweld a'r Eisteddfod hon o gymharu âg 155,437 yn Abertawe y llynedd, ac fe wnaeth yr eisteddfod elw, er gwaethaf y gofid ychydig cyn yr eisteddfod y byddai y tywydd drwg gafwyd yn golygu colled. Fe wnaethpwyd ar un adeg ystyried gohirio'r Eisteddfod oherwydd cyflwr y cae.

Derbyniodd yr Eisteddfod Genedlaethol gais swyddogol oddi wrth Gyngor Dinas Lerpwl i gynnal eisteddfod 2007 yn y ddinas.[1] Roedd hyn yn bennaf oherwydd mai Lerpwl yw Dinas Diwylliant Ewrop yn 2008.[2][3] Profodd y syniad o gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol y tu allan i Gymru am y tro cyntaf ers 1929 (hefyd yn Lerpwl) yn ddadleuol iawn, gydag anghytuno o fewn cymdeithasau Cymry Cymraeg Lerpwl yn ogystal ag o fewn Cymru.[4][5][6][7]

Cystadleuaeth Teitl y Darn Ffugenw Enw
Prif Gystadlaethau
Y Gadair Ffin "Un o Ddeuawd" T. James Jones (Jim Parc Nest)
Y Goron copaon "Gwyn" Tudur Dylan Jones
Y Fedal Ryddiaith Rhodd Mam "Dol Bapur" Mary Annes Payne
Gwobr Goffa Daniel Owen Pryfeta "Chwilen" Tony Bianchi
Tlws y Cerddor Hunanbortread "Jelsam Wise" Wyn Pearson

Y Goron golygu

Clawr Cyfansoddiadau a Beirniadaethau 2007

Doedd y beirniaid ddim yn unfrydol yn eu dyfarniad i goroni Tudur Dylan Jones gyda Gwyn Thomas yn anghytuno gyda Nesta Wyn Jones a Gerwyn Williams. Nesta Wyn Jones yn unig ddewisodd gerdd Tudur Dylan, gyda Gerwyn Williams yn rhoi ei awdl yn gydradd gydag un arall a Gwyn Thomas am gadeirio un arall eto.

Gwobr Goffa Daniel Owen golygu

Enillwyd y wobr gan Tony Bianchi am ei nofel Pryfeta. Doedd y beirniaid ddim yn gytun: roedd Robat Arwyn ac Annes Glynn am wobrwyo Pryfeta ond Harri Pritchard Jones o blaid nofel arall. Roedd ef yn teimlo fod gormod o ddisgrifiadau manwl o bryfetach a drychfilod, ac hynny yn tarfu ar y stori.

Gweler hefyd golygu

Ffynonellau golygu

  • Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007, ISBN 978-1-84323-894-2

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.