Crimpiau
bryn (475m) ym Mwrdeistref Sirol Conwy
Mynydd yn Eryri yw'r Crimpiau. Cyfeirnod AO: SH 733 596. Mae'n gorwedd yn ne-orllewin Sir Conwy tua milltir i'r gogledd-ddwyrain o bentref Capel Curig. Dyma estyniad deheuol olaf y Carneddau, er nad yw'n cyfrif fel rhan o brif gadwyn y mynyddoedd hynny.
Math | copa, bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 475 metr |
Cyfesurynnau | 53.11817°N 3.8946°W |
Cod OS | SH7330359567 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 91 metr |
Rhiant gopa | Creigiau Gleision |
Cadwyn fynydd | Y Carneddau |
Gellir dringo i'r copa trwy ddilyn llwybr o Gapel Curig hyd at Llyn y Coryn, llyn bychan ger y bwlch rhwng Crimpiau a Chlogwyn Cigfran i'r de. O'r bwlch mae llwybr yn dringo i'r copa. Mae'r prif lwybr yn parhau ar draws llethrau gogledd-orllewinol Crimpiau ac yn mynd i ben Creigiau Gleision, i'r gogledd.