Math o groes yw croes Ladinaidd neu crux immissa sydd yn cynnwys trawst fertigol hir sydd yn ymestyn yn uwch na'r trawst llorweddol, a'r fraich isaf yn hirach na'r tair braich arall. Hwn yw un o'r pedwar math o groes Gristnogol; y lleill yw'r groes Roegaidd (crux quadrata), y groes heb ben (crux commissa), a chroes Andreas neu'r sawtyr (crux decussata). Yn draddodiadol, credir i Iesu Grist gael ei groeshoelio ar groes Ladinaidd.

Croes Ladinaidd
Enghraifft o'r canlynolcrosses in heraldry Edit this on Wikidata
MathSiâp Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Adeiladir nifer o eglwysi ar gynllun llawr mewn siâp croes Ladinaidd.

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.