Croes
Mae croes yn siap geometrig sy'n cynnwys dwy linell neu far unionsgwar i'w gilydd, gan rannu un neu ddau o'r llinellau mewn hanner. Gan amlaf, rhed y llinellau'n fertigol neu'n llorweddol; os ydynt yn rhedeg ar letraws, defnyddir y term technegol sawtyr i'w disgrifio.
Mae'r groes yn un o symbolau mwyaf hynafol y ddynoliaeth, ac fe'i defnyddir gan nifer o grefyddau, megis Cristnogaeth. Caiff ei defnyddio'n aml fel cynrychioliad o raniadau'r byd i mewn i bedair elfen (neu'r pwyntiau prifol), neu weithiau fel undod o'r cysyniadau o ddwyfoldeb, y llinell fertigol, a'r byd, y llinell llorweddol.
Ar faneriGolygu
Gwelir croesau ar nifer o faneri, gan gynnwys pob gwlad yn Sgandinafia, a nifer o genhedloedd yn Hemisffer y De, sy'n ymgorffori'r Croes y De. Ers y 17g, mae baner y Swistir wedi arddangos croes hafalochrog mewn sgwâr (yr unig wladwriaeth sofren sydd â baner sgwâr heblaw am Ddinas y Fatican); seiliwyd logo'r Groes Goch ar faner y Swistir.
Baneri gwladwriaethau sofren sydd â chroesau arnyntGolygu
Baner Bwrwndi Baner Denmarc Baner Dominica Baner Gweriniaeth Dominica Baner y Ffindir Baner Georgia Baner Gwlad Groeg Baner Gwlad yr Ia Baner Jamaica Baner Malta Baner Norwy Baner Serbia Baner Slofacia Baner Sweden Baner Y Swistir Baner Tonga Baner y Deyrnas Unedig
Detholiad o faneri eraill sydd â chroesau arnyntGolygu
Baner yr Alban a San Andres Baner Quebec Baner Nova Scotia Baner y Groes Goch Arfbais Dinas Llundain Baner Madeira Ardal hunanlywodraethol Baner Portiwgal (1095) Baner Dinas Rio de Janeiro, Brasil Croes y De sy'n ymddangos ar nifer o faneri
Dolenni allanolGolygu
- seiyaku.com: Pob croes
- Amrywiaethau ar groesau - Delweddau a'u hystyron Archifwyd 2008-08-07 yn y Peiriant Wayback.