Crystal Eastman
Ffeminist o Unol Daleithiau America oedd Crystal Eastman (25 Mehefin 1881 - 8 Gorffennaf 1928) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfreithiwr, newyddiadurwr, gweithredydd heddwch a swffragét. Caiff ei chofio orau fel arweinydd yn y frwydr dros bleidlais menywod, fel cyd-sylfaenydd a chyd-olygydd gyda'i brawd Max Eastman y cylchgrawn celfyddydau a gwleidyddiaeth radical The Liberator, cyd-sylfaenydd Cynghrair Rhyngwladol y Menywod dros Heddwch a Rhyddid, a chyd-sylfaenydd yn 1920 o Undeb Hawliau Sifil America. Yn 2000 cafodd ei derbyn i Neuadd Enwogion Cenedlaethol y Menywod yn Seneca Falls, Efrog Newydd.
Crystal Eastman | |
---|---|
Ganwyd | 25 Mehefin 1881 Marlborough |
Bu farw | 8 Gorffennaf 1928 o clefyd yr arennau Erie |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfreithiwr, newyddiadurwr, ymgyrchydd heddwch, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, llenor |
Mam | Annis Bertha Ford Eastman |
Priod | Walter Fuller |
Plant | Jeffrey Fuller |
Gwobr/au | 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod |
Cafodd ei geni yn Marlborough ar 25 Mehefin 1881; bu farw yn Erie. Priododd Wallace J. Benedict, am gyfnod byr a phan ysgarwyd y ddau, symudodd Eastman i Milwaukee gydag ef. Roedd Jeffrey Fuller yn blentyn iddi. Dylanwadwyd arni hi a'i brawd Max gan sosialaeth ac roedd y ddau'n agos iawn at ei gilydd, gan fyw yn yr un cartref.[1][2]
Graddiodd Eastman o Goleg Vassar yn 1903 a derbyniodd M.A mewn cymdeithaseg (maes cymharol newydd) o Brifysgol Columbia yn 1904. Derbyniodd radd yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Efrog Newydd, a daeth yn ail orau yn ei blwyddyn yn 1907. [3][4]
Edrych nôl a gwerthuso
golyguAnwybyddwyd Freeman am flynyddoedd ac er iddi ysgrifennu deddfwriaeth arloesol a chreu sefydliadau gwleidyddol parhaol, diflannodd o hanes am hanner can mlynedd. Ysgrifennodd Freda Kirchwey, golygydd The Nation ar adeg ei marwolaeth: "Pan siaradodd â phobl — boed bwyllgor neu dorf anferthol — roedd calonnau'n curo'n gyflymach. I filoedd hi oedd y symbol o'r hyn a allai menyw rydd fod. "[5]
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod (2000)[6] .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dyddiad geni: "Crystal Eastman". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Crystal Eastman". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Crystal Eastman". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Crystal Eastman". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Aelodaeth: http://www.elisarolle.com/queerplaces/ch-d-e/Crystal%20Eastman.html.
- ↑ Anrhydeddau: https://www.womenofthehall.org/inductee/crystal-eastman/.
- ↑ "Crystal Eastman". Vassar College: Innovators. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-08. Cyrchwyd 18 Hydref 2011.
- ↑ https://www.womenofthehall.org/inductee/crystal-eastman/.