Culfor Sunda
Culfor rhwng ynysoedd Sumatera a Jawa yn Indonesia yw Culfor Sunda. Mae tua 200 km o hyd a 30 km o led yn y man culaf.
![]() | |
Math | culfor ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Môr Java ![]() |
Sir | Lampung, Banten ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 5.9703°S 105.7697°E ![]() |
![]() | |
Ceir nifer o ynysoedd yn y culfor, yn cynnwys ynys a llosgfynydd Krakatau, lle bu ffrwydrad mawr yn 1883. Gyda Culfor Malacca, y culfor yma yw'r cysylltiad pwysicaf rhwng Môr De Tsieina a Chefnfor India, a cheir trafnidiaeth brysur trwyddo.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/01/Sunda_Strait_map-fr.svg/400px-Sunda_Strait_map-fr.svg.png)