Culturenet Cymru
Cwmni oedd yn hyrwyddo prosiectau digidol diwylliannol yng Nghymru oedd Culturenet Cymru cyf. Roedd yn weithredol rhwng 2003 a 2016.[1] Ariannwyd y cwmni gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac roedd wedi'i leoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Ei briff oedd gweithio ar y cyd â'i aelodau a grwpiau cymunedol i ddatblygu prosiectau digidol. Ei nod oedd defnyddio adnoddau ar-lein i godi ymwybyddiaeth o ddiwylliant a hanes Cymru. Roedd prosiectau Culturenet Cymru yn cynnwys:
- 100 o Arwyr Cymru – arolwg barn i ddod o hyd i'r bobl fwyaf boblogaidd yn hanes Cymru. Arweiniodd at lyfr o'r un enw.
- Casglu'r Tlysau
- Archifau Cymunedol Cymru
- Eu Gorffennol Eich Dyfodol: Profiadau Pobl Cymru o'r Ail Ryfel Byd
- Glaniad (gwefan)[2]
Enghraifft o'r canlynol | cwmni cyfyngedig |
---|
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Culturenet Cymru". gov.uk. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2024.
- ↑ "Patagonian settlers' story online". BBC News (yn Saesneg). 19 Mawrth 2007.