Mae cwmni cyfyngedig yn gwmni wedi'i gofrestru yng ngwledydd Prydain a gogledd Iwerddon, ble mae cyfrifoldeb yr aelodau neu gyfranwyr y cwmni wedi ei gyfyngu i beth maent wedi buddsoddi neu warantu i'r cwmni. Gallai cwmnïau cyfyngedig fod yn gyfyngedig gan y cyfranddaliadau neu'r gwarantiad. Gellir rhannu cwmnïau a gyfyngir â cyfranddaliadau yn gwmnïau preifat a chwmnïau cyhoeddus. Mae amodau yn ôl y gyfraith a rheolau'r cwmni ynglŷn â'r rhai sydd cael dod yn aelod o gwmni cyfyngedig preifat. Gall unrhyw berson brynu cyfranddaliadau mewn cwmni cyfyngedig cyhoeddus.

Mae Tŷ’r Cwmnïau'n Asiantaeth Weithredol o dan Yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (BIS) o'r a'i brif swyddogaeth yw corffori a diddymu cwmnïau cyfyngedig, archwilio a chadw gwybodaeth am gwmnïau a gyflwynir yn unol â’r Ddeddf Cwmnïau a deddfwriaeth gysylltiedig; a threfnu i’r wybodaeth hon fod ar gael i’r cyhoedd.

Mae gan wledydd Prydain gyfundrefn cofresru a chorffori cwmnïau ers 1844. Mae materion corffori cwmnïau wedi eu cwmpasu gan gan Ddeddf Cwmnïau 2006.

Ceir mwy na 3 miliwn o gwmnïau cyfyngedig wedi eu cofrestru yn y DU, a chaiff dros 400,000 o gwmnïau newydd eu corffori yn flynyddol.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Tŷ’r Cwmnïau; Archifwyd 2014-02-14 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 8 Mehefin 2014

Gweler hefyd golygu