Defnyddir cwarantin (neu cwarantîn) i wahanu a chyfyngu ar symudiad pobl; mae'n ataliad ar weithgareddau neu gyfathrebu pobl neu gludo nwyddau am gyfnod penodol o amser mewn ymgais i atal lledaeniad clefydau neu blâu.[1] Mae hyn yn aml yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â chlefyd a salwch, fel y rhai a allai fod wedi dod i gysylltiad â chlefyd trosglwyddadwy, ond nad oes diagnosis meddygol wedi'i gadarnhau.[2] Mae'r term yn aml yn cael ei gam-ddefnyddio wrth ddisgrifio neilltuo meddygol, sef gwahanu pobl sâl sydd â chlefyd trosglwyddadwy oddi wrth y rhai sy'n iach, ac sy'n cyfeirio at gleifion y cadarnhawyd eu diagnosis.[2]

Baner signal "Lima" sy'n golygu bod llong o dan gwarantin pan fydd wedi ei chodi yn yr harbwr.

Gall cwarantin gael ei ddefnyddio yn gyfystyr â cordon sanitaire, ac er bod y termau yn gysylltiedig, mae cordon sanitaire yn cyfeirio at gyfyngu symudiad pobl i mewn neu allan o ardal ddaearyddol ddiffiniedig, fel cymuned, er mwyn atal haint rhag lledaenu.[3]

Daw'r gair cwarantin o amrywiad Eidalaidd (tafodiaith Fenisaidd o'r 17g) o'r term 'quaranta giorni', sy'n golygu deugain diwrnod, y cyfnod y bu'n ofynnol i bob llong gael ei hynysu cyn y gallai teithwyr a chriw fynd i'r lan yn ystod epidemig y Pla Du.[4] Gellir rhoi cwarantin ar bobl, ond hefyd ar anifeiliaid o wahanol fathau, ac fel rhan o reoli ffin yn ogystal ag o fewn gwlad.

Mae cwarantin yn aml yn codi cwestiynau am hawliau sifil, yn enwedig mewn achosion o gaethiwo neu arwahanu o gymdeithas am gyfnod hir, fel yn achos Mary Mallon oedd yn cael ei hamau o gludo teiffoid yn 1907. Cafodd ei harestio a threuliodd yr 24 mlynedd a 7 mis olaf ei bywyd wedi'i arwahanu yn Ysbyty Riverside ar Ynys North Brother, Efrog Newydd.[5][6]

Gall cyfnodau cwarantin hefyd fod yn fyr iawn, fel yn achos amheuaeth o ymosodiad anthracs, lle mae pobl yn cael gadael cyn gynted ag y byddant wedi tynnu dillad a allai fod wedi'u halogi a chael cawod i'w diheintio.

Mae baneri melyn, gwyrdd a hyd yn oed du wedi'u defnyddio i symboleiddio clefyd ar llongau ac mewn porthladdoedd. Y lliw melyn sydd â'r cynsail hanesyddol hiraf, fel lliw i ddynodi tai a oedd wedi'u heintio, cyn iddo gael ei ddefnyddio fel arwydd ar longau ac mewn phorthladdoedd. Y faner a ddefnyddir erbyn hyn yw baner "Lima" (L), sy'n gymysgedd o'r baneri melyn a du a ddefnyddiwyd o'r blaen. Weithiau fe'i gelwir yn y "jack melyn" ond roedd hwn hefyd yn enw ar gyfer y dwymyn felen, sy'n debyg o fod wedi cael ei enw gan liw'r faner yn hytrach na lliw'r dioddefwyr (roedd llongau colera hefyd yn defnyddio baner felen).[7] Mae'n debyg symbol llythyren y faner felen blaen ("Quebec" neu Q mewn baneri signal morol rhyngwladol) yn deillio o'i defnydd gwreiddiol mewn cwarantin gan mai 'q' yw'r llythyren gyntaf yn y gair 'quarantine', ond mae'r faner hon yn golygu'r gwrthwyneb erbyn hyn — llong sy'n datgan ei hun yn rhydd o glefyd sy'n galw am gwarantin, ac sy'n gwneud cais i gael ei harchwilio yn yr un modd ag arfer menw porthladdoedd.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. Merriam Webster definition | http://www.merriam-webster.com/dictionary/quarantine
  2. 2.0 2.1 "History of Quarantine" Centers for Disease Control and Prevention
  3. Rothstein, Mark A. "From SARS to Ebola: legal and ethical considerations for modern quarantine." Ind. Health L. Rev. 12 (2015): 227.
  4. Common cold (arg. Online-Ausg.). Basel: Birkhäuser. 2009. tt. 210. ISBN 978-3-7643-9894-1.
  5. "Typhoid Mary and the Public’s Right to Health," Broad Street Magazine, Feb 16, 2015, 12:37 pm
  6. Mary Beth Keane, "The History of Quarantine Is the History of Discrimination," Time Magazine, October 6, 2014
  7. "The origin of quarantine". Clinical Infectious Diseases 35 (9): 1071–2. 1 November 2002. doi:10.1086/344062. PMID 12398064. https://archive.org/details/sim_clinical-infectious-diseases_2002-11-01_35_9/page/1071.
  8. quarantine mark history