Diagnosis meddygol

Ym meddygaeth, y broses o adnabod cyflwr meddygol neu glefyd o'i arwyddion meddygol, symptomau, a chanlyniadau dulliau diagnostig yw diagnosis meddygol. Yn aml wrth wneud diagnosis fe fydd meddyg yn cynnal profion meddygol ar y claf megis mesur pwysedd gwaed, prawf gwaed, prawf wrin, pelydr-x, pigiad meingefnol, sgan CT, neu fiopsi. Ar ôl i'r meddyg gwneud diagnosis o gyflwr y claf bydd triniaeth yn dechrau os oes angen, ond weithiau caiff ail farn ei hystyried cyn mynd ymhellach.

Diagnosis meddygol

Daw'r gair diagnosis o'r Roeg διάγιγνῶσκειν (diagignoskein), sy'n golygu canfod, sydd yn tarddu o διά (dia), sef ar wahân, a γιγνῶσκειν (gignoskein), sef dysgu.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) diagnosis. Online Etymology Dictionary.
  Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato