Dull o wnïo yw cwiltio, a wneir gyda llaw neu beiriant gwnïo. Gelwir person sydd yn cwiltio yn gwiltiwr. Mae'r broses yn defnyddio nodwydd ac edau er mwyn uno dau neu fwy o haenau o ddefnydd er mwyn creu cwilt. Fel rheol, defnyddir tri haenen er mwyn creu cwilt. Mae haenen uchaf y cwilt yn ddefnydd (clytwaith weithiau), gyda wadin neu flanced gwlan yn y canol, a chefnyn plaen yn ffurfio'r haenen isaf. Er mwyn cadw'r wadin rhag symud oddi fewn y cwilt, caiff ei wnïo gyda pwyth rhedegog i glymu'r haenau at ei gilydd. Mae'r pwythau yn addurno'r cwilt yn ogystal â dal y strwythr at ei gilydd. Mae cwiltio yn cael ei wneud ar gwrlidau, cwiltiau celf ar gyfer hongian, dillad ac amryw o ddeynydd arall defnydd.

Merched yn cwiltio yn Gee's Bend, Alabama, 2005.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am gelf a chrefft. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.