Cwmni Da

Cwmni cynhyrchu Cymreig

Cwmni cynhyrchu rhaglenni teledu ydy Cwmni Da, sy'n creu rhaglenni teledu ar gyfer S4C, yn bennaf. Mae cynnyrch cenedlaethol a rhyngwladol y cwmni yn cynnwys rhaglenni ffeithiol, plant, comedi, adloniant, drama, digwyddiadau a chwaraeon. Mae Cwmni Da hefyd yn creu cynnwys ar gyfer y BBC, C4 ac yn cyd-gynhyrchu rhaglenni ar gyfer y farchnad ryngwladol.[1]

Cwmni Da
Enghraifft o'r canlynolcwmni cynhyrchu teledu Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1997 Edit this on Wikidata
PencadlysCaernarfon Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.cwmnida.cymru Edit this on Wikidata

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o gynyrchiadau'r cwmni wedi derbyn clod – yn genedlaethol yn ogystal ag ar y llwyfan rhyngwladol. Ymysg y gwobrau mae 9 Gwobr Bafta Cymru, Prif Wobr yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd, Gwobr One World Media a’r wobr ryngwladol glodwiw: The Jules Verne Adventure Film Award. Cyrhaeddodd cynyrchiadau diweddar y cwmni restr fer gwobrau Bafta UK yn ogystal â rhestr fer y Grierson Documentary Awards.[2]

Sefydlwyd y cwmni yn 1997 gan Dylan Huws, Ifor ap Glyn a Neville Hughes. Yn 2007 gwerthwyd cyfranddaliadau y ddau gyfarwyddwr arall i Dylan Huws.[3] Yn 2008 penderfynodd Huws drosglwyddo ei gyfranddaliadau i 'Ymddiriedolaeth ym Mherchnogaeth y Gweithwyr' fel bod y staff yn berchen y busnes. Mae'r Ymddiriedolwyr – sy;n cynnwys aelod o staff Cwmni Da – yw cadw golwg ar waith y cwmni.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Amdanom ni - cwmnida.tv". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-25. Cyrchwyd 2012-03-07.
  2. Cwmni Da wins award for ‘brilliant’ documentary Caernarfon & Denbigh 2/6/09
  3. Cwmni Da founder: Welsh television industry 'must evolve' , BBC News, 3 Ionawr 2019. Cyrchwyd ar 5 Hydref 2020.
  4. Staff i gael perchnogaeth cwmni teledu , BBC Cymru Fyw, 10 Hydref 2018. Cyrchwyd ar 5 Hydref 2020.

Dolen allanol golygu