Cwpan Arabaidd FIFA

twrnament pêl-droed i wledydd Arabaidd

Mae Cwpan Arabaidd FIFA neu Cwpan Pêl-droed Arabia neu Cwpan y Cenhedloedd Arabaidd neu'n fyr, y Cwpan Arabaidd (Arabeg: كأس الأمم العربية, Kaʾs al-Umam al-ʿarabiyya, Saesneg: FIFA Arab Cup; Arab Cup; Arab Nations Cup) yn gystadleuaeth bêl-droed i dimau cenedlaethol y byd Arabaidd, a drefnir gan Undeb Cymdeithasau Pêl-droed Arabaidd (UAFA) ac fe'i cynhaliwyd ar gyfnodau afreolaidd er 1963. Roedd twrnamaint 1992 yn rhan o'r Gemau Pan-Arabaidd. Yn 2009 cafodd y gystadleuaeth ei chanslo yn ystod y cymal cymhwyso. Yn ystod yr egwyl hir rhwng 1966 a 1985, chwaraewyd Cwpan y Cenhedloedd Palesteinaidd yn ei lle, er ei bod yn dal yn aneglur ai parhad o dan enw gwahanol yn unig ydoedd.

Cwpan Arabaidd FIFA
Organising bodyUndeb Cymdeithasau Pêl-droed Arabiaidd
FIFA (from 2021)
Founded1963; 61 blynedd yn ôl (1963)
RegionByd Arabaidd (UAFA)
Number of teams16 (finals)
Current championsBaner Moroco Moroco (1st teitl)
Most successful team(s) Irac (4 teitl)
WebsiteGwefan Swyddogol
Rhifyn 2021
Logo'r Gwpan yn 2012

Sefydlu

golygu

Sefydlwyd y Gwpan Arabaidd ym 1962 gan Ffederasiwn Pêl-droed Libanus. Cynhaliwyd rhifyn cyntaf y twrnamaint ym mhrifddinas Libanus, Beirut ym mis Hydref 1963, gyda phum tîm cenedlaethol o wledydd y byd Arabaidd yn cymryd rhan.

Daeth y gystadleuaeth dan adain FIFA y 2021, gyda timau gwledydd Undeb Cymdeithasau Pêl-droed Arabaidd (UAFA) y byd Arabaidd. Cystadleuaeth 2021 o'r twrnamaint y cyntaf o dan adain FIFA, sydd wedi hailenwi'n Gwpan Arabaidd FIFA.

 
Tîm Libanus yn y Cwpan Arabaidd yn 1966

Record

golygu
Gwlad
Safle Gwlad Teitl Blwyddyn
1   Irac 4 1964, 1966, 1985, 1988
2   Sawdi Arabia 2 1998, 2002
3   Yr Aifft 1 1992
  Tiwnisia 1963
  Moroco 2012
Cyfandir
Safle Cyfandir Titel
1 Asia 6
2 Affrica 3

Tabl llawn

golygu
Safle Tîm Cyfranogiad Chwarae E Cyf Colli GF GA GD Pwyntiau Avg
Pts
Tlysau
1   Irac 5 25 16 8 1 46 16 +30 56 2.24 4
2   Syria 6 25 10 7 8 34 28 +6 37 1.48
3   Coweit 8 30 10 6 14 48 50 –2 36 1.20
4   Libanus 7 27 8 7 12 33 39 –6 31 1.15
5   Libia 4 16 7 6 3 39 16 +23 27 1.69
6   Sawdi Arabia 6 26 13 7 6 43 23 +20 27 1.04 2
7   Gwlad Iorddonen 8 29 6 7 16 25 57 –32 25 0.86
8   Yr Aifft 4 15 5 7 3 17 12 +5 22 1.47 1
9   Moroco 3 12 6 3 2 18 10 +8 21 1.75 1
10   Bahrain 5 21 3 9 9 21 40 –19 18 0.86
11   Tiwnisia 2 8 4 3 1 14 5 +9 15 1.88 1
12   Qatar 2 8 4 2 2 10 7 +3 14 1.75
13   Swdan 3 9 3 3 3 11 12 –1 12 1.33
14   Palesteina 4 11 1 6 4 18 18 0 9 0.82
15   Algeria 2 6 1 3 2 3 6 –3 6 1.00
16   Iemen 3 10 1 1 8 9 44 –35 4 0.40
17   Emiradau Arabaidd Unedig 1 4 1 0 3 6 8 –2 3 0.75
18   Mawritania 1 2 0 0 2 0 4 –4 0 0.00
19   Oman 1 3 0 0 3 1 24 –23 0 0.00

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.