Agor y brif ddewislen
Erthygl am y cyfandir yw hon. Am ystyron eraill gweler Affrica (gwahaniaethu).
Map o'r byd yn dangos Affrica
Delwedd cyfansawdd lloeren o Affrica
Affrica yn y ddelwedd Blue marble, efo Antarctica i'r dde, a'r Sahara ac Arabia ar frig y glob.

Affrica neu Yr Affrig yw'r cyfandir mwyaf ond un yn nhermau arwynebedd a phoblogaeth, yn dilyn Asia. Mae tua 30,370,000 km² o dir yn Affrica - gan gynnwys ei hynysoedd cyfagos - sef 5.9% o arwynebedd y Ddaear, a 20.3% o arwynebedd tir y Ddaear. Mae dros 840,000,000 o bobl (2005) yn byw yng 61 tiriogaeth Affrica, sef dros 12% o boblogaeth ddynol y byd.

Cynnwys

DaearyddiaethGolygu

Prif erthygl: Daearyddiaeth Affrica

Affrica yw'r mwyaf o'r tri allaniad deheuol enfawr o brif fàs arwynebedd y Ddaear. Mae ganddi arwynebedd o c. 30,360,288 km²; (11,722,173 mi sg), gan gynnwys yr ynysoedd.

Saif y Môr Canoldir rhwng Affrica ac Ewrop, tra bod Culdir Suez yn ei chysylltu ag Asia (mae Camlas Suez yn gorwedd rhyngddynt), sydd 130 km (80 milltir) o led. (Yn nhermau gwleidyddol, ystyrir penrhyn Sinai yn yr Aifft, sydd i'r dwyrain o Gamlas Suez, fel rhan o Affrica hefyd.)

O'r pwynt mwyaf gogleddol, sef Cap Blanc (Ra’s al Abyad) yn Tiwnisia (37°21′ G), i'r pwynt mwyaf deheuol, sef Penrhyn Agulhas yn Ne Affrica (34°51′15″ D), mae pellter o tua 8,000 km (5,000 milltir). O'r pwynt mwyaf gorllewinol sef Cap-Vert yn Senegal, 17°33′22″ Gn, i'r pwynt mwyaf dwyreiniol sef Ras Hafun yn Somalia, 51°27′52″ Dn, mae pellter o tua 7,400 km (4,600 milltir).

Mae arfordir Affrica 26,000 km (16,100 milltir) o hyd. Wrth gymharu hyn ag Ewrop, sydd ag arwynebedd o 9,700,000 km²; (3,760,000 mi sg) yn unig, tra bod hyd ei harfordir oddeutu 32,000 km (19,800 milltir), gwelwn fod siâp amlinelliad Affrica yn nodweddiadol rheolaidd, tra bod arfordir Ewrop yn llawn o ddanheddiadau dwfn.

 
Map topograffigol o Affrica.

HanesGolygu

Prif erthygl: Hanes Affrica

Mae Affrica yn gartref i'r tir cyfannedd hynaf ar y ddaear, â'r hil ddynol yn tarddu o'r cyfandir yma. Yn ystod blynyddoedd canol yr ugeinfed ganrif, darganfu anthropolegwyr nifer o ffosilau a thystiolaeth o weithgaredd ddynol, mor gynnar â 7 miliwn o flynyddoedd yn ôl, efallai. Darganfu'r teulu Leakey enwog (sydd â chysylltiadau â Phrydain ag Affrica), gweddillion ffosilaidd nifer o rywogaethau o fodau dynol cynnar, oedd yn debyg i epaod, megis Australopithecus afarensis (wedi'i ddyddio'n radiometregol i 3.9-3.0 miliwn o flynyddoedd CC), Paranthropus boisei (2.3-1.4 miliwn CC) a Homo ergaster (c. 600,000-1.9 miliwn CC). Credir eu bod wedi esblygu'n ddyn modern. Mae'r rhain yn ddarganfyddiadau pwysig yn astudiaeth esblygiad dynol.

Datblygodd Affrica nifer o wareiddiaid unigryw, er enghraifft gwareiddiad yr Hen Aifft a Kush, Ethiopia, Simbabwe Fawr, ymerodraeth Mali a theyrnasoedd y Maghreb.

Yn 1482, sefydlodd y Portiwgaliaid y gyntaf o nifer o orsafoedd masnachu ar hyd arfordir Gini, yn Elmina. Y prif nwyddau a fasnachwyd oedd caethweision, aur, ifori a sbeisiau. Cafodd darganfyddiad America yn 1492 ei ddilyn gan ddatblygiad mawr yn y fasnach caethweision.

Ond ar yr un pryd roedd caethwasiaeth yn dod i ben yn Ewrop, ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuodd y pweroedd ymerodraethol Ewropeaidd "Ymgiprys am Affrica". Meddiannon nhw ran fwyaf o'r cyfandir, a chreu nifer o wladwriaethau a chenhedloedd trefedigaethol, gan adael ddim ond dwy genedl annibynnol: Liberia, gwladfa'r Americanwyr Duon, ac Ethiopia. Parhaodd y feddiannaeth tan ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Wedi hynny, fe enillodd y gwladwriaethau trefedigaethol annibyniaeth yn raddol, ac erbyn hyn maent i gyd yn annibynnol.

Heddiw, mae Affrica'n gartref i dros 50 o wledydd annibynnol, ac mae gan bob un ond am ddau yr un ffiniau a luniwyd yn ystod oes gwladychiaeth Ewropeaidd.

GwleidyddiaethGolygu

Affrica DrefedigaetholGolygu

Fe ddi-sefydlogodd gwladychiaeth cytbwysedd grwpiau ethnig niferus y cyfandir, effaith sydd i'w deimlo yng ngwleidyddiaeth Affrica hyd heddiw. Cyn dylanwad Ewropeaidd, nid oedd ffiniau cenedlaethol yn llawer o broblem, ac ar y cyfan fe ddilynodd Affricanwyr arferion ardaloedd eraill y byd, megis Arabia, lle'r oedd tiriogaeth grŵp yn gyfath â'i ddylanwad milwrol neu fasnachol. Roedd gan yr arferiad Ewropeaidd o lunio ffiniau o gwmpas tiriogaethau, i'w arwahanu o diriogaethau'r pŵeroedd trefedigaethol eraill, yr effaith o arwahanu grwpiau ethnig cyfagos, neu orfodi gelynion traddodiadol i gyd-fyw, heb wahandir rhyngddynt. Er enghraifft, er bod Afon y Congo yn ymddangos fel ffin ddaearyddol naturiol, roedd pobl y ddwy ochr yn rhannu iaith, diwylliant a sawl tebygrwydd arall. Roedd rhaniad y tir rhwng Gwlad Belg a Ffrainc ar hyd yr afon yn arwahanu'r grwpiau yma o'i gilydd. Roedd y rhai oedd yn byw yn y Sahara neu'r Sahel ac wedi arfer masnachu dros y cyfandir am ganrifoedd yn gorfod croesi "ffiniau" oedd yn bodoli dim ond ar fapiau Ewropeaidd.

 
Map yn dangos ceisiadau Ewropeaidd i'r Affrig ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf

EconomiGolygu

Affrica yw gyfandir cyfannedd tlotaf y byd: darganfu Adroddiad Datblygiad Dynol 2003 y Cenhedloedd Unedig (o 175 o wledydd) caiff safleoedd 151 (Gambia) i 175 (Sierra Leone) eu cymryd i gyd gan wledydd Affricanaidd.

Fe gafodd Affrica trawsnewidiad ansefydlog ac ansicr o wladychiaeth, ac mae effeithiau hyn i'w gweld o hyd; mae cynydd llygredigaeth ac unbennaeth wedi cyfrannu'n sylweddol i'r sefyllfa economaidd wael. Er bod tyfiant cyflym yn Tsieina ac India erbyn hyn, a thyfiant cymedrol yn America Lladin, wedi codi miliynau tu hwnt i fywoliaeth ymgynhaliol, mae Affrica wedi symud tuag yn ôl yn nhermau masnach dramor, buddsoddiad, ac incwm y pen. Mae gan y tlodi yma effeithiau eang, yn cynnwys disgwyliad oes is, trais, ac ansefydlogrwydd - ffactorau sydd yn eu tro'n gwaethygu'r tlodi.

Mae llwyddiannau economaidd y cyfandir yn cynnwys Botswana a De Affrica, sydd wedi datblygu cymaint bod ganddo gyfnewidfa stoc aeddfed ei hun. Mae dwy brif reswm am hyn: cyfoeth nwyddau naturiol y wlad (prif gynhyrchydd aur a diemyntau'r byd); a system gyfreithiol sefydledig y wlad. Hefyd mae gan De Affrica mynediad i gyfalaf economaidd, nifer o farchnadoedd a llafur medrus. Mae gwledydd Affricanaidd eraill (megis Ghana) yn gwella'n gymharol, ac mae gan rai (megis yr Aifft) hanes hir o lwyddiant masnachol ac economaidd.

Economi Affrica
Poblogaeth: 887 miliwn (14%)
CMC (PPP): US$1.635 triliwn
CMC (Pres): $558 biliwn
CMC/pen (PPP): $1,968
CMC/pen (Pres): $671
Cynnydd blynyddol yn
CMC y pen:
0.74% (1990-2002)
Incwm y 10% top: 44.7%
Miliwnyddion: 0.1 miliwn (0.01%)
Poblogaeth sy'n byw
ar lai na $1 y dydd:
36.2%
Dyled allanol fel
canran o CMC
60.7 (1998)
Taliadau dyled allanol
fel canran o CMC
4.2%
Derbyniad cymorth tramor
fel canran o CMC
3.2% (2001)
Amcangyfrif incwm benywaidd 51.8% o'r incwm gwrywaidd

IeithoeddGolygu

Prif erthygl: Ieithoedd Affrica

Mae rhan fwyaf o amcangyfrifon yn dweud fod gan Affrica dros fil o ieithoedd. Mae yna bedwar prif deulu iaith sy'n frodorol i Affrica.

 
Map yn dangos dosbarthiad teuluoedd iaith Affricanaidd a rhai o brif ieithoedd Affrica. Mae'r teulu Affro-Asiatig yn ymestyn o'r Sahel i Dde Orllewin Asia. Rhannwyd Niger-Congo i ddangos maint is-deulu Bantu.

Gwledydd AffricaGolygu

 
Rhanbarthau Affrica:

██ Gogledd Affrica

██ Gorllewin Affrica

██ Canolbarth Affrica

██ Dwyrain Affrica

██ De Affrica

Gogledd AffricaGolygu

Prif erthygl: Gogledd Affrica

Mae llawer o dir Gogledd Affrica yn sych iawn ac yn llawn diffeithiwch. Adnabyddir rhanbarth gorllewinol Gogledd Affrica fel y Maghreb.

Gorllewin AffricaGolygu

Prif erthygl: Gorllewin Affrica

Canolbarth AffricaGolygu

Prif erthygl: Canolbarth Affrica

Mae canol Affrica wedi ei gorchuddio â fforestydd, ac mae'n boeth a gwlyb iawn yno. Mae'r cyhydedd yn mynd trwy ganol Affrica.

Dwyrain AffricaGolygu

Prif erthygl: Dwyrain Affrica

Corn AffricaGolygu

Prif erthygl: Corn Affrica

De AffricaGolygu

Prif erthygl: De Affrica (rhanbarth)

Gweler hefydGolygu