Unrhyw fath o gwrw ag ynddo rywfaint o ryg (yn lle brag haidd) yw cwrw rhyg. Enghraifft o'r math hwn o gwrw yw roggenbier (Almaeneg am gwrw rhyg), sef cwrw arbennig a fregir gyda hyd at 60% o frag rhyg, ac sy'n tarddu o Bafaria.

Gwydryn a photel o gwrw rhyg

Fel arfer, mae cwrw rhyg yn cynnwys 5% alcohol, gyda blas calonnog, llawn grawn, megis bara rhyg. Yn gyffredinol, fe'i bregir gydag o leiaf 50% brag rhyg.[1]

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am gwrw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.