Cwrw
Diod alcoholaidd yw cwrw. Fe'i gwneir o rawnfwyd wedi'i eplesu. Cynhyrchir cwrw drwy ei fragu (e.e. mewn bragdy).

Hen fragdy tua 1900au yn Rhuthun: yr 'Hand Brewery', Stryd Clwyd
HanesGolygu
Mae pobl wedi bod yn bragu cwrw am o leiaf 9 mil o flynyddoedd. Yn Ewrop roedd cwrw'n boblogaidd am iddo fod yn fwy diogel i'w yfed na dŵr oherwydd fod dŵr yr afonydd yn llawn o feicrobau. Roedd mynachod yn aml yn gynhyrchwyr mawr o gwrw.
Mae yfed cwrw yn rhan o fywyd modern Prydain, a chaiff ei werthu mewn tafarnau sydd yn aml yn rhan ganolog o fywyd cymdeithasol.
Cwrw CymreigGolygu
Prif erthygl: Cwrw Cymreig
Mae sawl bragdy yng Nghymru, gan gynnwys Brains yng Nghaerdydd.
Hen benillionGolygu
Ceir nifer o hen benillion am gwrw gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn ddirmygus ohono:
- Rwyf yn ofer, rwyf yn yfed,
- Rwyf yn g’wilydd gwlad i’m gweled,
- Rwyf yn gwario fel dyn gwirion;
- Ffei o feddwi, ffiaidd foddion.
Dolenni allanolGolygu
- (Saesneg) Ymgyrch Dros Gwrw Go Iawn