Cwymp to Gorsaf Reilffordd Novi Sad
Cwympodd to Gorsaf Trenau Novi Sad tua 11:50 y bore ar 1 Tachwedd 2024. Bu farw pedwar ar ddeg o bobl yn y ddamwain, gan gynnwys bachgen chwe mlwydd oed, a chafodd tri arall eu hanafu. Mae tri o'r rhai a anafwyd mewn cyflwr critigol.
Enghraifft o'r canlynol | structural failure |
---|---|
Dyddiad | 1 Tachwedd 2024 |
Lladdwyd | 15 |
Lleoliad | Novi Sad railway station |
Rhanbarth | Vojvodina |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cefndir
golyguYm 2021, cyhoeddwyd cynlluniau ar gyfer adnewyddu ac ehangu'r orsaf fel rhan o ymdrech llywodraeth Serbia i wella ac uwchraddio seilwaith rheilffyrdd y wlad, gan gynnwys cyflwyno trenau cyflym.[1] Roedd y gwaith yn cynnwys moderneiddio'r traciau, adeiladu platfform newydd, a gwella'r prif adeilad yr orsaf gyda lifftiau ychwanegol ar gyfer pobl anabl. Dechreuodd y gwaith ym mis Medi 2021.[2]
Fel rhan o'r gwaith adnewyddu, roedd rhaid dymchwel Pont Boško Perošević, a chafodd Pont Reilffordd Žeželj ei hadnewyddu. Cynlluniwyd y prosiect gan Aleksandar Bojović, a chonsortiwm rhyngwladol rhwng JV Azvi, Taddei, a Horta Coslada International oedd yn darparu'r gwaith. Cwmniau'r China Railway International a'r China Communications Construction Company (CCCC) oedd yn gwneud y gwaith ar y rheilffordd, a hynny fel rhan o brosiect Llinell Reilffordd Budapest–Belgrade, sy'n rhan o gynllun rhwydwaith rheilffyrdd rhyngwladol ehangach.[3]
Agorwyd adeilad newydd yr orsaf yn swyddogol ar 19 Mawrth 2022 gyda thraciau sy'n caniatáu trenau i deithio ar gyflymder hyd at 200 km/h rhwng Beograd a Novi Sad.[4]
Y Ddamwain
golyguAr 1 Tachwedd 2024 tua 11:50 y bore, cwympodd to'r brif fynedfa i Orsaf Reilffordd Novi Sad. Bu farw pedwar ar ddeg o bobl, gan gynnwys bachgen chwe mlwydd oed, a chafodd tri arall eu hanafu.[5]
Dywedodd y peiriannydd adeiladu Danijel Dašić fod y to wedi disgyn oherwydd strwythur dur ychwanegol a ychwanegwyd i gynnal paneli gwydr yn ystod y gwaith adnewyddu.[6]
Ymateb
golyguCyhoeddodd Llywodraeth Serbia y byddai 2 Tachwedd 2024 yn ddiwrnod cenedlaethol o alaru, a chyhoeddwyd tri diwrnod o alar yn Novi Sad.[7] Cyhoeddwyd diwrnod o alar hefyd yn Republika Srpska.[8]
Mynegodd prif weinidog Hwngari Viktor Orbán ei gydymdeimlad â Serbia a theuluoedd y dioddefwyr.[9]
Galwodd Arlywydd Serbia Aleksandar Vučić am gyfrifoldeb gwleidyddol a throseddol am y ddamwain.[10] Dywedodd y consortiwm o Tsieina a fu'n gweithio ar yr adnewyddu nad oedd to'r orsaf yn rhan o'u prosiect nhw.[11]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Sut bydd Gorsaf Reilffordd Novi Sad yn edrych a'r cynnydd hyd yn hyn". Gradnja.rs. 21 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2024.
- ↑ Conić, Igor (14 Chwefror 2022). "Yr hyn sy'n cael ei wneud yng Ngorsaf Reilffordd Novi Sad i baratoi ar gyfer trenau cyflym". Gradnja.rs. Cyrchwyd 23 Medi 2023.
- ↑ "Prosiect o arwyddocâd hanfodol i Dde-orllewin Ewrop". Insajder. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2024.
- ↑ Conić, Igor (18 Mawrth 2022). "Sut mae'r orsaf wedi'i hadnewyddu'n edrych a thrên cyflym cyntaf yn gadael Novi Sad (fideo)". Gradnja. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2024.
- ↑ "Dacic ar y ddamwain yn Novi Sad: Yr ymgyrch achub wedi'i chwblhau, 14 wedi marw a thri wedi'u hanafu". Danas. 1 Tachwedd 2024. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2024.
- ↑ "Injiniwr yn egluro sut y digwyddodd cwymp to yng Ngorsaf Reilffordd Novi Sad". Danas. 1 Tachwedd 2024.
- ↑ "Llywodraeth Serbia yn cyhoeddi diwrnod o alar cenedlaethol oherwydd y drychineb yn Novi Sad". RTV. 1 Tachwedd 2024. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2024.
- ↑ "Republika Srpska yn cyhoeddi diwrnod o alar". Srpska Info. 1 Tachwedd 2024. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2024.[dolen farw]
- ↑ "Prif Weinidog Hwngari, Orbán, yn mynegi cydymdeimlad am y drychineb yn Novi Sad". Dnevnik. 1 Tachwedd 2024. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2024.
- ↑ "Vučić am y drychineb yn Novi Sad: Galw am gyfrifoldeb gwleidyddol a throseddol". N1. 1 Tachwedd 2024.[dolen farw]
- ↑ "Consortiwm Tsieineaidd ar Orsaf Reilffordd Novi Sad: Nid oedd y to'n rhan o'r adnewyddiad". N1. 1 Tachwedd 2024.[dolen farw]