Ffurf ar lywodraeth lle mae nifer o wladwriaethau annibynnol yn ymuno â'i gilydd i greu cyfundrefn lywodraethol uwchgenedlaethol yw conffederasiwn neu cydffederasiwn. Mae conffederasiwn yn wahanol i ffederasiwn gan fod aelodau conffederasiwn yn cadw eu sofreniaeth eu hunain. Yn y cyd-destun hwn, prif ystyr sofreniaeth yw'r hawl i rannu pwerau rhwng y conffederasiwn a'r aelodau unigol. Mae gan aelodau conffederasiwn felly yr hawl i dynnu allan ohono yn unochrog. Mewn ffederasiwn, mae sofreniaeth a'r hawl i bennu ffiniau pwerau'r ffederasiwn yn perthyn i'r ffederasiwn yn hytrach nag i'w aelodau.

Mae sefydliadau'r conffederasiwn yn cynnwys cynulliad cynrychiadol a gweithrediaeth ar gyfer materion o fewn pwerau'r conffederasiwn. Mewn conffederasiwn nid yw penderfyniadau a chyfreithiau cyrff deddfwriaethol y conffederasiwn ddim yn effeithio yn uniongyrchol ar ddinesyddion yr aelodau. Fe'u trosglwyddir yn hytrach i'r aelodau i'w gweithredu. Mae pwerau llywodraeth y conffederasiwn yn amrywio o un achos i'r llall, ond tueddir iddi reolu materion amddiffyn, materion tramor, masnach allanol ac arian cyfredol cyffredin.

Mewn gwirionedd mae'r gwahaniaeth rhwng ffederasiwn a chonffederasiwn yn un main, a defnyddir y ddwy derm yn gyfystyr yn aml.

Mae enghreifftiau o gonffederasiynau yn cynnwys:

Gweler hefyd

golygu