Gweithrediaeth

cangen weithredol y llywodraeth a rhan o weinyddiaeth y wladwriaeth

O dan yr athrawiaeth gwahanu pwerau, gweithrediaeth yw'r gangen o'r llywodraeth sy'n gyfrifol am weithredu neu orfodi deddfau, a gweithio ym materion y wladwriaeth o ddydd i ddydd. Y prif ffigur yn y gangen weithredol yw pennaeth y llywodraeth. Mae'n un o dri piler draddodiadol grym yn y wladwriaeth gyfoes ddemocrataidd ynghŷd â'r deddfwrfa a'r farnwriaeth.

Rhai o aelodau Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon yn derbyn sêl y swydd, Mai 2014

SystemGolygu

Mae'r weithrediaeth yn gweithredu ac yn gorfodi'r gyfraith. Y Gweithrediaeth yw'r personau a'r sefydliadau hynny sy'n ymwneud â gweithredu cyfraith a pholisi. Mae'n gyfystyr â 'Llywodraeth'. Mae'r weithrediaeth yn gyfrifol am ddatblygu'r gyfraith, ond nid ei gwneud.[1]

Mewn systemau gwleidyddol sy'n seiliedig ar yr egwyddor o wahanu pwerau, mae awdurdod yn cael ei ddosbarthu ymhlith sawl cangen (gweithredol, deddfwriaethol, barnwrol) - ymgais i atal crynhoad pŵer yn nwylo un grŵp o bobl. Mewn system o'r fath, nid yw'r weithrediaeth yn pasio deddfau (rôl y ddeddfwrfa) nac yn eu dehongli (rôl y farnwriaeth). Yn lle, mae'r weithrediaeth yn gorfodi'r gyfraith fel y'i hysgrifennwyd gan y ddeddfwrfa a'i dehongli gan y farnwriaeth. Gall y weithrediaeth fod yn ffynhonnell rhai mathau o gyfraith, fel archddyfarniad neu orchymyn gweithredol. Mae biwrocratiaethau gweithredol yn aml yn ffynhonnell rheoliadau.[2]

Gweithredu GrymGolygu

 
Y Bundesregierung, Llywodraeth yr Almaen, 2014
 
Arwyddlun Llywodraeth Iwerddon

Gelwir y weithrediaeth yn "Gweinyddiaeth" (Administration) mewn systemau arlywyddol fel sydd yn yr Unol Daleithiau neu'r "llywodraeth" mewn systemau seneddol fel un Prydain neu Gweriniaeth Iwerddon. Mae gan bennaeth llywodraeth systemau arlywyddol (a elwir yn "arlywydd") fwy o annibyniaeth o'r gangen ddeddfwriaethol, oherwydd, yn wahanol i systemau seneddol, nid yw'n cael ei ethol gan y senedd gan y blaid na'r glymblaid sydd â'r nifer fwyaf o seddi, ond fe'i hetholir yn uniongyrchol gan y bobl trwy bleidlais. Yn ogystal, mae'r arlywydd ar yr un pryd yn bennaeth y wladwriaeth.

Mewn brenhiniaeth gyfansoddiadol, fel Prydain, Gweriniaeth Iwerddon neu Sbaen, y frenhiniaeth yw pennaeth y wladwriaeth, a phennaeth y pŵer gweithredol de jure, a'r prif weinidog, y mae'n ei ddynodi'n dechnegol, yw pennaeth llywodraeth y brenin neu frenhines. Yn ymarferol, fodd bynnag, pŵer cyfyngedig iawn sydd gan bennaeth y wladwriaeth (brenin), ac mae'n penodi fel prif weinidog y mae'r bobl a etholir trwy bleidlais, er bod penderfyniadau'n cael eu gwneud yn enw'r brenin.

Ar y cyd â'r llywydd neu'r prif weinidog, mae'r gangen weithredol yn cynnwys adrannau gweithredol neu weinidogaethau'r cabinet ac llywodraeth. Ymysg swyddi gweinidogol o fewn y Weitrediaeth mae:

Gweinidog Amddiffyn - goruchwylio'r lluoedd arfog, penderfynu ar bolisi milwrol a rheoli diogelwch allanol.
Gweinidog Cartref - goruchwylio'r heddluoedd, gorfodi'r gyfraith a rheoli rheolaeth fewnol.
Gweinidog Tramor - goruchwylio'r gwasanaeth diplomyddol, penderfynu ar bolisi tramor a rheoli cysylltiadau tramor.
Gweinidog Cyllid - goruchwylio'r trysorlys, penderfynu ar bolisi cyllidol a rheoli'r gyllideb genedlaethol.
Gweinidog Cyfiawnder - goruchwylio erlyniadau troseddol, cywiriadau, gorfodi gorchmynion llys.

Dirprwy Brif WeinidogGolygu

Yn aml mewn gwladwriaethau sy'n arddel system pleidleisio cyfrannol bydd llywodraeth glymblaid yn gyffredin. O ganlyniad gall gwahanol weinidogion berthyn i wahanol bleidiau.

Ceir hefyd sydd benodol ar gyfer Dirprwy Brif Weinidog. Yn Ngweriniaeth Iwerddon ceir swydd y Dirprwy Brif Weindiog ei adnabod fel Tánaiste. Cafwyd 25 Tánaiste ers yr un cyntaf, Seán T. O'Kelly a ddaliodd y swydd o 1937 (cyhoeddi a derbyn Cyfansoddiad Iwerddon) hyd at 1945. Mae'r gair Gwyddeleg, Tánaiste, yn debyg o ran ystyr i'r gair Cymraeg, 'etifedd'.[3]

Yn ystod llywodraeth glymblaid Plaid Lafur Cymru a Phlaid Cymru yn Senedd Cymru 2007-11, adnabwyd Ieuan Wyn Jones, Arweinydd Plaid Cymru fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru mewn cydnabyddiaeth fod ganddo hawliau uwch o fewn y cabinet nag aelodau eraill.[4]

DatganoliGolygu

Er mai "llywodraeth" ("government") yw'r term cyffredin ar lafar ac yn swyddogol ar gyfer y weithrediaeth ym Mhrydain, bu'r setliad datganoli gyfansoddiadol i Gymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon, yn gyndyn o ddefnyddio'r term cyffredin gan ddefnyddio'r term llai cyffredin Gweithrediaeth. Roedd hynny, mae'n debyg rhag peri dryswch â llywodraeth San Steffan, neu, efallai i roi i'r cynulliadau newydd statws llai. Erbyn hyn, mae "Llywodraeth Cymru" a "Scottish Government" yn dermau dilys a chyffredin, ond parheir i alw'r llywodaeth Cynulliad Gogledd Iwerddon yn Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon.

CymruGolygu

Datganolwyd nifer o rymoedd Gweithrediaeth Senedd San Steffan i Gymru y sgil Refferendwm datganoli i Gymru, 1997 gan greu Gweithrediaeth Cymru.[5] Er, fel yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban, defnyddiwr y gair Executive i ddisgrifio'r Llydwodraeth ac nid 'government'.

Un nodwedd bwysig o'r Cynulliad Cenedlaethol (fel y'i gelwid ar y pryd) tan 2007 oedd nad oedd y swyddogaethau deddfwriaethol a gweithredol wedi'u gwahanu'n gyfreithiol nac yn gyfansoddiadol, gan ei fod yn endid corfforaethol sengl. O'i gymharu â systemau seneddol eraill, a threfniadau ar gyfer datganoli yng ngwledydd eraill y DU, roedd hyn yn anarferol. Yn ymarferol, fodd bynnag, roedd swyddogaethau'n cael eu gwahanu, a daeth y termau "Cynulliad" a "Gwasanaeth Seneddol y Cynulliad" i ddefnydd i wahaniaethu rhwng y ddwy fraich. Rheoleiddiodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 y gwahaniad pan ddaeth i rym yn dilyn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007.

Gweler hefydGolygu

DolenniGolygu

CyfeiriadauGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.