Math o gi yw cyfeirgi,[1][2] gosotgi,[3] setiwr[4] neu gi setio[5] sy'n cynnwys tri brîd o gŵn adar: Cyfeirgi Gordon, y Cyfeirgi Gwyddelig, a'r Cyfeirgi Seisnig.

Cyfeirgi
Enghraifft o'r canlynolmath o gi Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Paentiad o 1800 gan Sydenham Edwards sy'n darlunio'r tri math o gyfeirgi

Maent yn tarddu o gi hela o'r Oesoedd Canol o'r enw'r Sbaengi Gosod a gafodd ei hyfforddi i ganfod adar ac yna i "osod", hynny yw i orwedd ger yr adar i alluogi'r heliwr i daflu rhwyd dros yr adar a'r ci. Pan gafodd drylliau eu mabwysiadu gan helwyr, hyfforddwyd cyfeirgwn i sefyll tra'n cyfeirio.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, [setter].
  2.  cyfeirgi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Medi 2014.
  3.  gosotgi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Medi 2014.
  4.  setiwr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Medi 2014.
  5.  ci. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Medi 2014.
  6. (Saesneg) setter (dog). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Medi 2014.
  Eginyn erthygl sydd uchod am gi. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.