Mewn ystadegaeth, mae cyfernod yn ffactor lluosol o fewn term y polynomial, cyfres, neu unrhyw fynegiant - rhif, fel arfer. Pan fo'n fynegiant (yn hytrach nag yn rhif) yna gelwir y newidynnau'n "baramedrau", a rhaid eu gwahaniaethu oddi wrth y newidynnau eraill. Mewn geiriau eraill, mae cyfernod yn werth sy'n cyfleu'r raddfa o berthynas rhwng pethau.

Cyfernod
Mathrhif, factor, Cysonyn Edit this on Wikidata
Rhan opolynomial Edit this on Wikidata

Er enghraifft, yn

mae gan y ddau derm cyntaf gyfernodau o 7 a -3.

Mae'r trydydd term 1.5 yn gyfernod cyson. Nid oes gan y term olaf unrhyw gyfernod ysgrifenedig penodol, ond ystyrir bod ganddo gyfernod 1, gan na fyddai lluosi gyda'r ffactor hwnnw yn newid y term.

Yn aml mae'r cyfernodau'n rhifau, fel gyda'r enghraifft hon, er y gallent fod yn baramedrau'r broblem neu'n unrhyw fynegiant yn y paramedrau hyn. Mewn achos o'r fath, mae'n rhaid gwahaniaethu'n glir rhwng symbolau sy'n cynrychioli newidynnau a symbolau sy'n cynrychioli paramedrau. Yn dilyn gwaith gan René Descartes, mae'r newidynnau'n aml yn cael eu dynodi gan x, y, ..., a'r paramedrau gan a, b, c, ..., ond nid yw hyn bob amser yn wir. Er enghraifft, os ystyrir bod y yn baramedr yn y mynegiant uchod, yna cyfernod x yw −3y, a'r cyfernod cyson yw 1.5 + y.

Pan sgwennir

,

ystyrir yn gyffredinol fod x yn newidyn a bod a, b a c yn baramedrau; gan hynny, y cyfernod cyson yw c yn yr achos hwn.

Yn yr un modd, gellir sgwennu unrhyw bolynominal yn y newidyn x fel

i rai cyfanrifau positif , ble mae yn gyfernodau; i ganiatau'r math hwn o fynegiant ym mhob achos, mae'n rhaid cyflwyno termau gyda chyfernodau o 0. Ar gyfer yr mwyaf, gyda (os oes), gelwir yn "gyfernod arweiniol". Felly, er enghraifft, mae cyfernod arweiniol y polynominal

yn 4.

Algebra llinol golygu

O fewn algebra llinol, cyfernod arweiniol rhes mewn matrics yw'r rhif di-sero cyntaf yn y rhes honno. Felly, er enghraifft,

 .

Mae'r cyfernod arweiniol y rhes cyntaf yw 1; 2 yw cyfernod arweiniol rhes dau; 4 yw cyfernod arweiniol y drydedd rhes, ac nid oes gan rhes pedwar gyfernod arweiniol.

Caiff cyfernodau eu hystyried fel cysonion, yn aml, mewn algebra elfennol, ond yn gyffredinol maent yn newidynnau. Er enghraifft, mae'r cyfesurynnau   fector   mewn gofod fectoraidd gyda sail  , yn gyfernodau'r fectorau yn y mynegiant

 

Cyfeiriadau golygu

  • Sabah Al-hadad and C.H. Scott (1979) College Algebra with Applications, tud. 42, Winthrop Publishers, Cambridge Massachusetts ISBN 0-87626-140-3 .
  • Gordon Fuller, Walter L Wilson, Henry C Miller, (1982) College Algebra, 5ed rhifyn, tud. 24, Brooks/Cole Publishing, Monterey California ISBN 0-534-01138-1 .
  • Steven Schwartzman (1994) The Words of Mathematics: an etymological dictionary of mathematical terms used in English, tud. 48, Mathematics Association of America, ISBN 0-88385-511-9.