Cyflafan ysgol Peshawar
Ysgydwyd y byd gan gyflafan ysgol Peshawar, pan ymosododd saith aelod o'r Taleban Pacistanaidd â gynnau ar Ysgol Gyhoeddus y Fyddin yn ninas Peshawar, Pacistan, gan ladd 132 o blant a naw oedolyn. Digwyddodd hyn ar 16 Rhagfyr 2014.[1]
Enghraifft o'r canlynol | cyflafan |
---|---|
Dyddiad | 16 Rhagfyr 2014 |
Lladdwyd | 156 |
Lleoliad | Army Public School Peshawar |
Gwladwriaeth | Pacistan |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Estroniaid oedd pob un o'r terfysgwyr: un Tsietsen, tri Arab a dau Affgan. Wedi iddynt fynd i mewn i gampws yr ysgol dechreuon nhw saethu'r staff a'r disgyblion,[2][3] gan ladd 145 o bobl: 132 o ddisgyblion (bechgyn yn unig)[4]. Roedd y rhain rhwng 8 ac 18 oed.[5][6] Cafwyd ymgyrch i ryddhau'r plant ar unwaith, gan fyddin Pacistan a lladdwyd y saith terfysgwr yn y fan a'r lle. Rhyddhawyd gweddil y bobl: dros 960.
Dywedodd Major General Asim Bajwa mewn cyfweliad â'r wasg fod o leiaf 130 o bobl wedi'u hanafu yn yr ymosodiad.[2]
Dyma'r gyflafan terfysgol waethaf a welwyd erioed ym Mhaciastan - gwaeth hyd yn oed na bomio Karachi yn 2007.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Pakistan Taliban: Peshawar school attack leaves 141 dead. BBC (16 Rhagfyr 2014). Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2014.
- ↑ 2.0 2.1 "Peshawar school attack: Over 100 killed in Pakistani Taliban attack, hundreds of students hostage". DNA India. 16 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2014.
- ↑ "Pakistan Taliban kill scores in Peshawar school massacre". BBC News. 16 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2014.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-06. Cyrchwyd 2015-02-16.
- ↑ "In Pakistan school attack, Taliban terrorists kill 145, mostly children". CNN. 17 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 18 Rhagfyr 2014.
- ↑ "Taliban Besiege Pakistan School, Leaving 145 Dead". The New York Times. 16 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 18 Rhagfyr 2014.
- ↑ "At least 126, mostly children, slaughtered as Taliban storm Pakistan school". CNN. 16 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2014. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help)