Arabiaid

(Ailgyfeiriad oddi wrth Arab)

Mae'r Arabiaid yn bobl Semitaidd a breswyliai orynys Arabia yn wreiddiol. Gellir eu rhannu'n fras yn ddau grŵp diwylliannol, sef y llwythi Bedouin nomadaidd a'r cymunedau dinesig ac amaethyddol.

Arabiaid

Roedd yr Arabiaid yn adanbyddus i'r Groegiaid, y Rhufeiniaid a'r Iddewon yn yr Henfyd. Cyfeirir atynt gan hanesyddion clasurol ac fe'i henwir yn yr Hen Destament yn y Beibl.

Yn y 7g, wedi'u hysbarduno a'u hysbrydoli gan neges y Proffwyd Mohamed a dan bwysau economaidd a chymdeithasol yn ogystal, ymledodd yr Arabiaid dros ran sylweddol o'r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica. Wrth wneud hynny cludiasant efo nhw cred Islam a'r iaith Arabeg mor bell â'r Maghreb ac Andalusia yn y gorllewin ac Indonesia yn y dwyrain.

Er bod y gair "Arabiaid" yn golygu trigolion Arabia a'u disgynyddion uniongyrchol yn wreiddiol, heddiw mae'n cael ei ddefnyddio i gyfeirio at drigolion iaith Arabeg de-orllewin Asia, yr Aifft, Gogledd Affrica a rhannau o'r Affrica is-Saharaidd, yn ogystal â phobl Arabaidd sy'n byw tramor.

Gweler hefydGolygu