Seremoni filwrol draddodiadol yw Cyflwyno'r Faner[1][2] sy'n nodi Pen-blwydd Swyddogol y Frenhines ym mis Mehefin. Mae milwyr o Adran yr Osgordd (Y Gwarchodlu Troedfilwyr a Marchoglu'r Osgordd) yn perfformio'r seremoni o flaen y Teulu Brenhinol a gwesteion yn Horse Guards Parade ger Parc Iago Sant, Llundain.[3]

Cyflwyno'r Faner, 2009.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Geirfa. Brenhiniaeth y Deyrnas Unedig. Adalwyd ar 5 Mai 2013.
  2. Geiriadur yr Academi, [troop].
  3. (Saesneg) Trooping the Colour. Brenhiniaeth y Deyrnas Unedig. Adalwyd ar 5 Mai 2013.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am frenhiniaeth neu aelod o deulu brenhinol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.