Cyfrwy
Sedd a ddodir ar gefn ceffyl neu anifail arall ar gyfer marchogaeth yw cyfrwy.[1] Ceir dolennau neu gylchoedd o'r enw gwartholion sy'n hongian o'r cyfrwy i gynnal traed y marchogwr. Ceir dau fath o'r cyfrwy modern ar gyfer marchogaeth ceffylau: y cyfrwy Gorllewinol, neu'r cyfrwy Mwraidd, sydd yn addas am waith, a'r cyfrwy Seisnig, neu'r cyfrwy Hwngaraidd, sy'n addas at chwaraeon a marchogaeth hamddenol.[2]
Dywed Plinius yr Hynaf taw un o'r enw Pelethronius oedd y cyntaf i ddefnyddio darn o ledr wedi ei sicrhau ar gefn y ceffyl er cysur a chyfleusdra'r marchogwr. Am amser maith edrychid ar y darnau lledr hyn fel arwyddion o feddalwch a mercheteiddiwch, a gwrthodid hwy gan filwyr gyda dirmyg. Roedd yr hen lwythau Germanaidd yn edrych gyda diystyrwch ar y marchfilwyr Rhufeinaidd am eu bod yn defnyddion cyfrwyau. Dyfeisiwyd cyfrwyau i ferched oddeutu 1380.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ cyfrwy. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 29 Hydref 2014.
- ↑ (Saesneg) saddle. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Hydref 2014.