Carfan o athronwyr, mathemategwyr, a gwyddonwyr oedd yn cyfarfod ym Mhrifysgol Fienna yn y 1920au a'r 1930au oedd Cylch Fienna (Almaeneg: Wiener Kreis). Ymhlith yr aelodau oedd Rudolf Carnap, Otto Neurath, Kurt Gödel, Friedrich Waismann, Herbert Feigl, Hans Hahn, Philipp Frank, a Karl Menger. Cysylltir yn bennaf ag athroniaeth positifiaeth resymegol.

Cyfarfu'r grŵp yn gyntaf ym 1924 dan arweiniad Moritz Schlick. Ymgynulliodd gylch tebyg ym Merlin, dan Hans Reichenbach. Cyhoeddwyd cyfnodolyn o'r enw Erkenntnis ar y cyd gan y ddau gylch.

Bu farw Schlick ym 1936, a chwalodd y cylch yn sgil yr Anschluss ym 1938. Er hynny, parhaodd syniadau a dylanwad ei aelodau mewn gwledydd eraill.

Darllen pellach golygu

  • V. Kraft, The Vienna Circle (Efrog Newydd, 1969).