Grŵp wedi ei drefnu i ddarparu gofal a chymdeithasu ar gyfer plant dan bump oed yw cylch chwarae, maent yn llai ffurfiol na ysgol feithrin. Nid ydynt yn darparu gwasanaeth amser llawn, ond yn hytrach dim ond cwpl o oriau pob dydd yn ystod adeg tymor yr ysgol, ac yn aml yn y boreau yn unig. Caiff y plant eu gofalu amdanynt gan nyrsys meithrin neu gwirfoddolwyr yn hytrach na athrawon, a caent eu rhedeg gan unigolion neu elusennau yn hytrach na'r llywodraeth.

Ym Mhrydain, ers yr 1980au, mae cyclhoedd chwarae wedi bod yn dod yn llai cyffredin gyda'r cynnydd mewn addysg feithrin ffurfiol, mae nifer o gylchoedd chwarae erbyn hyn ond yn gwasanaethu plant dau a thri oed cyn iddynt dechrau yn yr ysgol feithrin. Mae hefyd cynnydd wedi bod mewn faint gaiff cylchoedd chwarae eu orychwylio gan y llywodraeth.

Eginyn erthygl sydd uchod am addysg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato