Ysgol ar gyfer plant rhwng tri a phump oed ydy ysgol feithrin (sydd bellach yn cael ei alw'n gylch meithrin). Mae arweinyddion â chymwysterau perthnasol yn gofalu am y plant, yn ogystal ag eraill sy'n goruchwylio chwarae addysgol yn hytrach nag ond darparu gofal plant.[1] Mae'n sefydliad addysg cyn-ysgol sy'n rhan o addysg gynnar i blant.

Delwedd:Classe maternelle2.jpg
Plant oed meithrin wrth eu gwaith.

Mae chwarae yn bwysig i bob agwedd o ddatblygiad plant. Felly, mae’r profiadau a gweithgareddau'r yn y cylch wedi cael eu seilio ar ddysgu trwy chwarae. Mae pwyslais arbennig ar ddatblygiad iaith, datblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol plant yn y cylchoedd.

Mae rhai cylchoedd yng Nghymru yn derbyn arian plant 3 oed sy'n golygu fod Llywodraeth Cymru yn talu am addysg plentyn 3 oed yn y cylch meithrin.

Mudiad Meithrin

golygu

Yng Nghymru ceir corff i oruchwylio a threfnu addysg feithrin cyfrwng Cymraeg, sef Mudiad Meithrin a elwid hefyd yn "Fudiad Ysgolion Meithrin".

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Nursery school. Encarta (1 Awst 2007).
  Eginyn erthygl sydd uchod am addysg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato