Cymdeithas Clwb Cymraeg Caerdydd
Sefydlwyd Cymdeithas Clwb Cymraeg Caerdydd ar ôl cyfarfod a gynhaliwyd yn Nhŷ'r Cymry ym 1979 pan siaradodd Huw Phillips am glybiau aelodau. Bwriad y Gymdeithas, fel yr amlygir yn ei enw, oedd sefydlu clwb Cymraeg yn y ddinas. Gwireddwyd ei nod pan agorodd Clwb Ifor Bach.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d7/Cerdyn_aelodaeth_aelod_cyntaf_Cymdeithas_Clwb_Cymraeg_Caerdydd.jpg/220px-Cerdyn_aelodaeth_aelod_cyntaf_Cymdeithas_Clwb_Cymraeg_Caerdydd.jpg)