Tŷ'r Cymry (Caerdydd)

canolfan Gymraeg Caerdydd


Mae Tŷ'r Cymry yn adeilad sy'n gweithredu fel canolfan i weithgareddau a sefydliadau Cymraeg yng Nghaerdydd ers yr 1930au. Lleolir Tŷ'r Cymry yn 11, Heol Gordon, Caerdydd, CF24 3AJ.

Tŷ'r Cymry
Mathsefydliad Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaUndeb Cenedlaethol Athrawon Cymru Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1936 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCaerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.487°N 3.1715°W Edit this on Wikidata
Map

Sefydlu golygu

 
Plac Tŷ'r Cymry, yn coffáu Lewis Williams

Yn 1936 cyflwynodd Lewis Williams, ffermwr o Fro Morgannwg, yr adeilad ar Ffordd Gordon, y Rhath, fel man cyfarfod a man gwaith i sefydliadau, cymdeithasau, grwpiau o bobl hyrwyddo'r Gymraeg a'i diddordebau ac i weithio "tuag at statws dominiwn Gymraeg" i Gymru [1] (hynny yw, ffurf ar hunanlywodraeth oedd gan Iwerddon neu Awstralia ar y pryd).

Ers ei agor yn 1936 mae wedi bod yn fan ymgynnull a sbardun i sawl mudiad pwysig iawn yn y Gymru Gymraeg a Chymru fel gwlad. Dros y blynyddoedd, mae Tŷ'r Cymry wedi bod yn gartref i nifer o sefydliadau, gan gynnwys Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd, Yr Urdd, Ymgyrch Senedd i Gymru, Cynghrair Celtaidd (Cangen Cymru), Mudiad Ysgolion Meithrin, y Mudiad ar gyfer Addysg Gristnogol Cymru, Menter Caerdydd (lleoliad eu swyddfa gyntaf yn 2001 [2]), Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Cymdeithas Tŷ'r Cymry, Undeb Credyd Plaid Cymru rhwng 2006-20, dosbarth dysgwyr Cymraeg.[3]

Ysgol Gymraeg golygu

Yn 1937-38 roedd cynlluniau ar y gweill yn Nhŷ'r Cymry i sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd. Roedd Gwyn M. Daniel ac eraill o'r cylch fu'n cwrdd yn y Tŷ ar fin sefydlu ysgol yn yr adeilad ond rhoddwyd y cynlluniau i'r neilltu gan fod yr Ail Ryfel Byd ar y gorwel ac i Arglwydd Faer Caerdydd fynnu mai cyfrifoldeb pwyllgor addysg y ddinas oedd sefydlu pob ysgol.

Gan nad oedd sôn am sefydlu ysgol Gymraeg o du'r awdurdodau, sefydlodd selogion Tŷ'r Cymry yr Ysgol Gymraeg Fore Sadwrn yn yr adeilad yn 1943. Roedd chwe athrawes yn dysgu yn yr ysgol Sadwrn a hynny am ddim. Ymhlith y plant a fynachai'r Ysgol Fore Sadwrn yr oedd Rhodri Morgan (cyn-Brif Weinidog Cymru) a'i frawd, yr Athro Prys Morgan. Daeth i ben yn 1947 ond ar sail yr ymdrechion sefydlu'r ysgol yn y 1930au y sefydlwyd Ysgol Gynradd Gymraeg Caerdydd yn 1949, sef yr hyn ddaeth yn Ysgol Bryntaf maes o law.

Cofiai Nia Royles (un o dair merch Gwyn M. Daniel; Ethni Jones a Lona Roberts oedd y ddwy arall) fel y cynhaliodd hi a'i chwaer, Ethni, Uwch Adran yr Urdd yn yr adeilad bob nos Wener.

Sefydlu UCAC golygu

Sefydlwyd Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn Nhŷ'r Cymry yn 1940. Y Llywydd oedd Dr Gwenan Jones, Aberystwyth; yr is-Lywydd, D.J. Williams, Abergwaun; yr Ysgrifennydd Cyffredinol, Gwyn M. Daniel; yr Ysgrifennydd oedd Hywel J. Thomas; a Victor Hampson-Jones oedd Ysgrifennydd Adran y Gyfraith.

Ysgol Feithrin Gyntaf Caerdydd golygu

Yn Nhŷ'r Cymry y sefydlwyd ysgol feithrin Gymraeg gyntaf Caerdydd gan bobl megis Gwilym Roberts ac Owen John Thomas. Bu cylch meithrin yn cwrdd yn festri Eglwys y Crwys ar Heol y Crwys, Caerdydd. Erys darpariaeth Mudiad Ysgolion Meithrin. Yn 2015, roedd Cylch Meithin a Cylch Ti a Fi yn cael ei chynnal yn Nhŷ'r Cymry.[4]

Ymgyrch Senedd i Gymru golygu

Gan wireddu dymuniad gwreiddiol Lewis Williams i'r adeilad fod yn canolfan at gyrchu tuag at statws dominiwn i Gymru, Tŷ'r Cymry oedd pencadlys Ymgyrch Senedd i Gymru a sefydlwyd yn yr 1980au a bu'n weithredol nes ennill Refferendwm Datganoli Cymru 2011. Bu'r Ymgyrch yn defnyddio'r Tŷ fel canolfan ar gyfer gweinyddu a dosbarthu miloedd o daflenni yn pledio achos dros senedd i Gymru, gyda'r Ysgrifenyddion - John Osmond, Robin Reeves ac yna Alan Jobbins - yn gweithredu o'r adeilad.

Pan etholwyd un o garedigion y ganolfan, Owen John Thomas, yn Aelod Cynulliad defnyddiodd Tŷ'r Cymry fel ei swyddfa etholaeth.

Man Cymdeithasu golygu

Roedd Tŷ'r Cymry yn fan cymdeithasu ac ymgynnull. Cofiai un o hoelion wyth y Gymraeg yng Nghaerdydd, Gwilym Roberts fel y byddai'r adeilad yn llawn ar nos Sul wedi'r cwrdd yn y capeli Cymraeg.[1] Mae'n cynnal cyfleoedd i bobl sy'n dysgu Cymraeg i gwrdd ac ymarfer yr iaith.[5] Dyna hefyd fan cyfarfod cyntaf Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd pan sefydlwyd hi yn 1979.

Côr Cyd-adrodd Tŷ'r Cymry golygu

Enillodd y côr yn yr Eisteddfod Genedlaethol bum mlynedd o'r bron gan dderbyn sgôr o 99/100 un flwyddyn. Awgrymodd y beirniaid eu bod yn rhoi gorau iddi er mwyn rhoi cyfle i gorau eraill.

Gweinyddu golygu

Gweinyddir Tŷ'r Cymry gan fwrdd o ymddiriedolwyr.

Bu cymdeithas 'Cyfeillion Tŷ'r Cymry' yn trefnu digwyddiadau a theithiau hanesyddol a diwylliannol yng Nghaerdydd a'r cylch am flynyddoedd lawer.[6]

Mae archifau Tŷ'r Cymry ac archifau UCAC yng Nghasgliadau Arbennig ac Archifau Llyfrgell Prifysgol Caerdydd:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/special-collections

Gweler Hefyd golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 https://issuu.com/dinesydd/docs/dinesydd_ebrill_2006
  2. https://twitter.com/sianjobbins/status/1269035930926579715
  3. https://archiveshub.jisc.ac.uk/search/archives/3bed1527-c9e4-3ba1-8239-2bb20e98e1e1
  4. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-06-05. Cyrchwyd 2020-06-05.
  5. http://www.hanesplaidcymru.org/author/admin/?lang=en
  6. https://www.bbc.co.uk/cymru/deddwyrain/papurau_bro/y_dinesydd/newyddion/hydref09.shtml