Cymhareb pŵer i bwysau

(Ailgyfeiriad o Cymhareb pŵer i pwysau)

Pŵer Penodol golygu

Cymhareb pŵer i bwysau (pŵer penodol) (Saesneg: power to weight ratio) yw'r cyfrifiad a ddefnyddir yn aml yn gymhwysol ar foduron a pheiriannau symudol eraill i alluogi cymharu un uned (cynllun) gyda un arall. Mae cymhareb pŵer i bwysau yn fesuriad o wir berfformiad unrhyw fodur.

Fformiwla cymhareb pŵer i bwysau (pŵer penodol) ar gyfer modur ydy:
PŴER a gynhyrchir gan y modur wedi ei rannu gan BWYSAU'r modur.

 

System Saesneg unedau mesur yw marchnerth y pwys (hp/lb) fel arfer
System Metrig unedau mesur yw marchnerth y cilogram (hp/kg) fel arfer
Defnyddir watiau, neu kW (cilowatiau), yn lle marchnerth yn aml (Cyfnewidiad: 745.7 wat/hp).

Oherwydd mai cymhareb ydy hyn, mae'r enwadur wastad yn unigol (1 lb neu 1 kg), fel yn yr esiampl ganlynol: 250 hp (pŵer modur)/1,000 lb (pwysau modur) = 0.25 hp/lb pŵer penodol (modur car) 70,000 hp (pŵer tyrbin)/700 lb (pwysau tyrbin) = 100 hp/lb pŵer penodol (gwennol ofod) Nodir: Wrth edrych ar gymhareb pŵer i bwysau (pŵer penodol), y mwyaf yw'r gorau.

Llwytho Pŵer golygu

Defnyddir Cymhareb pwysau i bŵer (llwytho pŵer) yn aml gydag awyrennau, ceir a cherbydau yn gyffredinol, i alluogi cymharu perfformiad un cerbyd gyda'r llall. Cymhareb pwysau i bŵer yw'r mesuriad o allu cyflymu (potensial) unrhyw gerbyd tir neu berfformiad dringo unrhyw awyren neu long ofod.

Cymhareb pwysau i bŵer (llwytho pŵer) ar gyfer cerbyd ydy: Pwysau'r cerbyd wedi ei rannu gyda'r pŵer a gynhyrchir gan y modur:

 

System Saesneg unedau mesur yw pwys y marchnerth (lb/hp) fel arfer
System Metrig unedau mesur yw cilogram y marchnerth (kg/hp) fel arfer
Defnyddir watiau, neu kW (cilowatiau), yn lle marchnerth yn aml (Cyfnewidiad: 745.7 wat/hp).

Oherwydd mai cymhareb ydy hyn, mae'r enwadur wastad yn unigol (1 hp neu 1 kW) fel yn yr esiampl golynol:
3,122 lb (pwysau car)/145 hp (pŵer modur) = 21.5 lb/hp (car) llwytho pŵer
2,450 lb (pwysau awyren)/160 hp (pŵer modur) = 15.3 lb/hp (9.25 kg/kW) (awyren) llwytho pŵer
Nodir: Wrth edrych ar gymhareb pŵer i pwysau (pŵer penodol), y lleiaf yw'r gorau.

Defnydd tu allan i beirianneg golygu

Defnyddir y gymhareb yn aml mewn chwaraeon i fesur y pŵer a ellir chwaraewr ei allanoli. Mae hyn yn arbennig o bwys gyda dringwyr yn seiclo, bydd gan y seiclwyr sydd gyda'r gymhareb pŵer i bwysau orau fantais aruthrol yn y mynyddoedd pan fyddent yn dringo i fyny allt bydd disgyrchiant yn fwy o ffactor yn eu perfformiad. Caiff pŵer seiclwyr ei fesur men watiau a bydd seiclwr da allanoli pŵer o dros 500 wat ond bydd hwn yn mynd i wastraff os byddent yn pwyso gormod.