Uned safonol a ddefnyddir gan y gwyddonydd ydy Wat neu Watt sy'n cael ei ddynodi gan y symbol W. Deillia'r enw i beiriannydd o'r Alban o'r enw James Watt (1736–1819). Mae'r uned yma'n mesur graddfa trawsnewidiad egni a chaiff ei ddiffinio fel un joule yr eiliad.

Wat
Enghraifft o'r canlynoluned fesur o bŵer, System Ryngwladol o Unedau gydag enw arbennig, uned SI gydlynol, System Ryngwladol o Unedau Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Diffiniad golygu

Yn nhermau mecaneg pur, un watt ydy graddfa'r gwaith sydd wedi'i wneud pan fo cyflymder gwrthrych yn cael ei gadw ar un fetr yr eiliad yn erbyn egnio un newton o'r cyfeiriad arall.

 
  • Yn nhermau electromagneteg, fodd bynnag, un watt ydy cyfradd y gwaith a wneir pan fo un amp (A) o gerrynt yn llifo drwy gwahaniaeth potensial trydanol o un folt (V).
 

Gellir darganfod dau uned trawsnewid ychwanegol ar gyfer y Watt drwy ddefnydio'r hafaliad uchod a Deddf Ohm.

 

Megawat golygu

Un miliwn (106) wat ydy Megawat. Gall ffatri fawr neu floc o fflatiau ddefnyddio un megawat ar drydan.

Uned safonol (SI) i fesur gwrthiant trydanol ydy'r Ohm Ω.