Cymidei Cymeinfoll
Cawres Wyddelig y cyfeirir ati yn Ail Gainc y Mabinogi yw Cymidei Cymeinfoll. Rhoddodd Cymidei enedigaeth i un rhyfelwr arfog a ffurfiedig bob chwe wythnos.
Yr oedd yn wraig i Llasar Llaes Gyfnewid, a oedd hanner ei maint hi, ac yn eilradd iddi. Gyda'i gilydd, roedden nhw'n byw o dan lyn yn Iwerddon ac yn geidwaid Pair y Dadeni, y byddent yn taflu rhyfelwyr marw iddo, a fyddai wedyn yn dod yn ôl yn fud.
Cymerodd Matholwch, brenin Iwerddon, yn y chwedl, y teulu i mewn i'w gartref, ond blinodd arnynt a gorchmynnodd eu taflu i adeilad haearn a oedd yn cael ei gynhesu o'r tu allan. Bu farw pawb ond Cymidei a Llasar, y rhai a ddiangasant i Gymru gyda'r crochan, a roddasant i Bendigeidfran yn heddoffrwm.[1]
Cyfeirir at y ddau fel gwesteion ym mhriodas Branwen, chwaer Bendigeidfran, a Matholwch. [2]
Nodiadau
golygu- ↑ "Celtic Deities of Britain, Wales, Gaul, and Scotland (and surrounding areas)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-08-14. Cyrchwyd 2006-11-05.
- ↑ The Mabinogion (gwaelod Llyfr II) Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback.