Cymorth:Gweithdy Cyfieithu
Hafan y Gweithdy | Tiwtorial | Cwestiynau | Ceisiadau | Erthyglau sydd angen eu cywiro | Adnoddau | Nodiadau | Negesfwrdd | Aelodau |
Nod y Gweithdy CyfieithugolyguNod y Gweithdy Cyfieithu yw ddarparu cymorth i olygwyr sy'n cyfieithu erthyglau o wicis eraill i'r Wicipedia Cymraeg. Mae'r gweithdy hefyd yn cydlynu'r gwaith o gyfieithu erthyglau, yn rhoi cyfle i gyfieithwyr newydd ymarfer eu sgiliau, a rhoi gwybod i gyfieithwyr profiadol pa waith sydd angen ei gywiro. Sut i ymunogolyguYmunwch i dderbyn cymorthgolyguOs ydych yn ddefnyddiwr newydd, neu'n newydd i'r broses o gyfieithu, rhowch eich enw ar y rhestr aelodau fel myfyriwr. Dysgwch sut i gyfieithu drwy'r tiwtorial, gofynnwch gwestiynau, defnyddiwch adnoddau, a thrafodwch y gweithdy ar y negesfwrdd. Ymunwch i ddarparu cymorthgolyguOs ydych yn ddefnyddiwr neu'n gyfieithydd profiadol sydd am helpu defnyddwyr eraill, rhowch eich enw ar y rhestr aelodau fel cynghorwr. Atebwch gwestiynau gan ddefnyddwyr eraill, darparwch adnoddau, cywirwch erthyglau, a thrafodwch y gweithdy ar y negesfwrdd. Nodyn ar beiriannau cyfieithugolyguGall cyfieithu peirianyddol megis Google Translate neu Bing Translator fod o gymorth wrth gyfieithu, ond ar y cyfan maent yn annibynadwy wrth drosi brawddegau a pharagraffau llawn a gall droi testun yn lol llwyr. Rydym yn rhoi'r nodyn {{Google Translate dim diolch}} ar dudalennau sgwrs cyfranwyr sydd yn amlwg yn defnyddio Google Translate i greu erthyglau. DolennigolyguDolenni allanolgolygu
Hiwmorgolygu |