Cymwysterau Cymru

Corff wedi ei noddi gan Lywodraeth Cymru yw Cymwysterau Cymru (Saesneg: Qualifications Wales), sy'n gyfrifol am gydnabod cyrff dyfarnu ac adolygu a chymeradwyo cymwysterau nad yw'n raddau yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd gan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 [1] a daeth yn weithredol ar 21 Medi 2015.[2]

Cymwysterau Cymru
Qualifications Wales
Sefydlwyd21 Medi 2015
MathCorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru
PwrpasRheoleiddio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yng Nghymru.
PencadlysAdeilad Q2, Parc Imperial, Coedcernyw, Casnewydd
Rhanbarth a wasanethir
Cymru Cymru
Cadeirydd
Ann Evans
Prif Weithredwr
Philip Blaker
Cysylltir gydaLlywodraeth Cymru
GwefanCymwysterau Cymru

Mae'n rheoleiddio'r cyrff dyfarnu sy'n darparu cymwysterau mewn ysgolion a cholegau, fel TGAU a Lefel A, yn ogystal â chymwysterau galwedigaethol a Bagloriaeth Cymru. Fe fydd gan y corff newydd dros saith deg o staff mewn cymysgedd o swyddi rheoleiddio, ymchwil, polisi a datblygiad. Mae ei swyddfa ym Mharc Imperial, Casnewydd.[3]

Cyfrifoldebau golygu

Mae'r Ddeddf yn amlinellu dau brif nod a chyfrifoldebau i'r corff:[1]

  • sicrhau bod cymwysterau, a’r system gymwysterau yng Nghymru, yn effeithiol er mwyn diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru;
  • ennyn hyder y cyhoedd mewn cymwysterau a’r system gymwysterau yng Nghymru

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Deddf Cymwysterau Cymru 2015". Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 1 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 1 Ebrill 2016. Unknown parameter |iaith= ignored (help)
  2. "Deddf Cymwysterau Cymru 2015 - Crynodeb" (PDF). Cynulliad Cenedlaethol Cymru. August 2015. Cyrchwyd 1 Ebrill 2016.
  3. "Help shape the Welsh qualifications system: Six recruitment opportunities at Qualifications Wales". Wales Online. 14 Ebrill 2015. Cyrchwyd 1 Ebrill 2016. Unknown parameter |iaith= ignored (help)

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu