Cynghrair y Cenhedloedd UEFA
Cystadleuaeth bêl-droed rhyngwladol yw Cynghrair y Cenhedloedd UEFA. Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal bob dwy flynedd ar gyfer timau dynion y cymdeithasau pêl-droed sy'n aelodau o UEFA, sef y corff llywodraethol Ewropeaidd.
Cychwynnodd y twrnament cyntaf ym mis Medi 2018, yn dilyn Cwpan y Byd FIFA 2018. Bydd enillwyr y pedwar grwp o Gynghrair A yn mynd i'r rowndiau terfynol sydd i'w cynnal ym Mehefin 2019. Bydd pedair cenedl, un o bob Cynghrair, hefyd yn mynd ymlaen i Rowndiau Terfynol Euro 2020.[1]
Mae'r gystadleuaeth yn cymryd lle y gemau rhyngwladol cyfeillgar a oedd yn cael eu chwarae yng Nghalendr Gemau Rhyngwladol FIFA.[2]
Y Tlws
golyguCafodd tlws Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ei ddadorchuddio pan cyhoeddwyd am y tro cyntaf pa dimau fyddai yn y cynghreiriau yn Lausanne, Y Swistir. Mae'r tlws yn cynrychioli'r 55 cymdeithas genedlaethol sy'n aelodau o UEDA ac wedi'i wneud o arian. Mae'n pwyso 7.5 cilogram ac yn 71 cm o uchder..[3]
Anthem
golyguCafodd anthem swyddogol Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ei recodio gyda cherddorfa ffilharmonig a chor yn canu mewn Lladin. Mae'n gyfuniad o gerddoriaeth glasurol ac electronig a bydd yn cael ei chwarae pan fydd y chwaraewyr yn rhedeg ar y cae, mewn rhaglenni teledu ac at ddibenion seremoniol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "UEFA Nations League receives associations' green light". UEFA.com. 27 Mawrth 2014.
- ↑ Rumsby, Ben (25 Mawrth 2014). "England ready to play in new Nations League as revolutionary UEFA plan earns unanimous backing". The Telegraph. The Telegraph Media Group. Cyrchwyd 26 Mawrth 2014.
- ↑ "UEFA Nations League trophy and music revealed". UEFA.com. https://www.uefa.com/uefanationsleague/news/newsid=2530179.html. Adalwyd 30 Awst 2018.