Agor y brif ddewislen

UEFA (Saesneg: Union of European Football Associations, Ffrangeg Union des associations Européennes de football‎) ydi'r corff llywodraethol ar gyfer pêl-droed yn Ewrop er fod sawl aelod â thiriogaethau sy'n rhanol neu'n llwyr ar gyfandir Affrica ac Asia. Mae UEFA yn un o chwe chonffederasiwn corff llywodraethol y byd pêl-droed, FIFA, ac mae 54 o gymdeithasau pêl-droed yn aelodau.

Mae UEFA yn cynrychioli cymdeithasau pêl-droed cenedlaethol Ewrop, yn rhedeg cystadlaethau rhyngwladol a chystadlaethau clwb gan gynnwys Pencampwriaeth UEFA Ewrop, Cynghrair y Pencampwyr UEFA, Cynghrair Europa UEFA a Super Cup UEFA. Mae UEFA yn rheoli'r arian gwobr, y rheolau, a'r hawliau darlledu ar gyfer y cystadlaethau hynny.

Lleolwyd pencadlys cyntaf UEFA ym Mharis cyn iddynt symud i Bern ym 1959 ond ym 1995 symudodd UEFA ei bencadlys i dref Nyon yng ngorllewin y Swistir[1]. Michel Platini ydi'r llywydd presennol.

HanesGolygu

Ffurfiwyd UEFA ar 15 Mehefin 1954 mewn cyfarfod yn Basel, y Swistir yn dilyn trafodaethau rhwng Cymdeithasau pêl-droed Yr Eidal, Ffrainc a Gwlad Belg[2] gyda 31 o gymdeithasau yn cytuno i uno o dan orychwyliaeth y corff newydd[3].

AelodauGolygu

Mae 54 aelod yn UEFA gyda sawl gwlad trawsgyfandirol yn dewis bod yn rhan o UEFA yn hytrach na Chonffederasiwn Pêl-droed Asia (AFC). Y gwledydd hyn yw Armenia, Azerbaijan, Casachstan, Cyprus, Georgia a Rwsia.

Mae Israel wedi bod yn aelodau UEFA ers 1994 ar ôl cael eu diarddel o'r AFC ym 1974[4][5]. Mae Casachstan hefyd yn gyn-aelodau o'r AFC[6].

1. Aelod o UEFA ond ddim yn aelod o FIFA

Cyn-aelodauGolygu

  •   Undeb Pêl-droed Saarland (1954–1956)
  •   Cymdeithas Bêl-droed Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (1954-1990)
  •   Ffederasiwn Pêl-droed yr Undeb Sofietaidd (1954-1991) daeth yn Undeb Pêl-droed Rwsia ym 1992 gyda'r 14 cyn Weeriniaeth Sofietaidd yn creu eu cymdeithasau eu hunain gan ddod yn aelodau unigol o FIFA ac UEFA neu'r AFC.
  •   Cymdeithas Bêl-droed Iwgoslafia (1954–1992) daeth yn Gymdeithas Bêl-droed Serbia a Montenegro ym 1992. Daeth Bosnia-Hertsegofina, Croatia, Macedonia a Slofenia yn annibynnol a chreu eu cymdeithasau pêl-droed eu hunain.
  •   Cymdeithas Bêl-droed Serbia a Montenegro (1992–2006) daeth yn Gymdeithas Bêl-droed Serbia yn 2006. Creodd Montenegro, oedd wedi sicrhau annibyniaeth, ei cymdeithas bêl-droed ei hun.

Pencampwyr presennolGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. "UEFA: Location Changes". UEFA.org.
  2. "History 1954-1980". UEFA.org.
  3. "History of UEFA". Uefa.org.
  4. "Aust-Asian bid fails". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "UEFA: Israel". Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "UEFA: Kazakhstan". Unknown parameter |published= ignored (help)

Dolenni allanolGolygu