Cyngor Diogelwch Ffederasiwn Rwsia
Corff ymgynghorol i Arlywydd Ffederasiwn Rwsia sy'n gweithio ar benderfyniadau'r Arlywydd ynghylch diogelwch cenedlaethol yw Cyngor Diogelwch Ffederasiwn Rwsia (Rwseg: Совет Безопасности Российской Федерации). Sefydlwyd ym Mai 1992, ac mae ei aelodau'n cynnwys swyddogion llywodraethol sy'n gyfrifol am rannau penodol o ddiogelwch (megis diogelwch amgylcheddol), yn ogystal ag aelodau dethol o'r Duma.
Ysgrifenyddion y Cyngor Diogelwch
golygu- Yury Skokov (1992—1993)
- Yevgeny Shaposhnikov (1993)
- Oleg Lobov (1993—1996)
- Aleksandr Lebed (1996)
- Ivan Rybkin (1996—1998)
- Andrei Kokoshin (1998)
- Nikolai Bordyuzha (1998—1999)
- Vladimir Putin (1998-1999)
- Sergei Ivanov (1999—2001)
- Vladimir Rushailo (2001—2004)
- Igor Ivanov (2004-2007)
- Valentin Sobolev (2007- 12 Mai 2008)
- Nikolai Patrushev (ers 12 Mai 2008)
Dolen allanol
golygu- (Rwseg) Gwefan swyddogol
- (Saesneg) russiansabroad.com – Russian security council Archifwyd 2011-10-13 yn y Peiriant Wayback