Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol (Lloegr)

Corff cyhoeddus anadrannol oedd y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol, oedd yn rhan o Adran Iechyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac yn rheoleiddiwr ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a myfyrwyr gofal cymdeithasol yn Lloegr rhwng 2001 a 2012. Roedd yn gosod codau ymddygiad ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a cyflogwyr gwaith cymdeithasol, ac roedd yn cadw rhestr o oddeutu 100,000 o weithwyr cymdeithasol a myfyrwyr, gan ddefnyddio model ymddygiad i reoleiddio a disgyblu cofrestwyr. Y corff cyfatebol yng Nghymru yn yr un cyfnod oedd Cyngor Gofal Cymru.

Mae'r cyngor wedi newid ei enw i'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal erbyn hyn.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "HPC website".