Cyngor yr Ucheldir
(Ailgyfeiriad o Cyngor yr Ucheldiroedd)
Ardal Cyngor yr Ucheldir (Gaeleg yr Alban: Sgìre Comhairle na Gàidhealtachd; Saesneg: Highland Council) yng ngogledd yr Alban yw'r fwyaf o ran arwynebedd o holl raniadau llywodraeth leol yr Alban a Phrydain o bell ffordd (arwynebedd 30,659 km², cymharer: Cymru gyfan 20,779 km²).
Math | un o gynghorau'r Alban |
---|---|
Prifddinas | Inverness |
Poblogaeth | 235,540 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Ucheldiroedd yr Alban |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 25,657.1465 km² |
Cyfesurynnau | 57.5°N 5°W |
Cod SYG | S12000017 |
GB-HLD | |
Nid yw'r ardal a reolir gan y Cyngor yn cyfateb i ardal ddaearyddol Ucheldiroedd yr Alban. Mae rhannau o ardal ddaearyddol yr Ucheldiroedd yn dod dan awdurdodau Moray, Swydd Aberdeen, Perth a Kinross, Argyll a Bute, Angus a Stirling. Mae ardal y Cyngor yn cynnwys y rhan fwyaf o Ynysoedd Mewnol Heledd.
Crëwyd y Cyngor fel awdurdod rhanbarthol yn 1975, a daeth yn awdurdod unedol yn 1996. Y brif dref yw Inverness.