Cynllunio pensaernïol

Mae cynllunio pensaernïol yn broses o ddatblygu'r amgylchedd naturiol a'r amgylchedd wedi eu adeiladu gan ddyn - trefedigaethau, prosiect adeiladu neu adeiladau unigol - ac sy'n cael ei wneud fel arfer gan bensaer; mae hefyd yn cynnwys y dogfennau perthnasol: brasluniau, cynlluniau a'r manylion angenrheidiol.

Cynllun o Gastell Harlech gan Cadw

Cynlluniau

golygu

Ar hyn o bryd mae pump fath o brif gynllun yn cael eu defnyddio ar gyfer Cymru: Cynllun Gofodol, Cynllun Fframwaith, Cynllun Lleol, Cynllun Lleol Mwynau a Chynllun Datblygu Unedol.

Mae Cynllun Gofodol yn gynllun ar gyfer ddatblygiad Cymru gyfan dros 20 mlynedd sy'n cynnwys yr amcanion datblygiad dros yr holl wlad. Mae pob cynllun arall yn gynllun deg mlynedd.

Cynllun sy'n cael ei benderfynu mewn ardaloedd gwledig yw Cynllun Fframwaith, Cynllun Lleol a Chynllun Lleol Mwynau. Mae Cynllun Fframwaith yn penderfynu strategïau datblygiad sylfaenol yr ardal, er enghraifft y nifer o dai sy'n rhaid eu hadeiladu a lle i'w adeiladu nhw. Mewn ardal Cynllun Fframwaith mae nifer o Gynlluniau Lleol sy'n cael eu paratoi gan awdurdod cynllunio (y cyngor Sir neu Awdurdod y Parc Cenedlaethol). Maen nhw'n dehongli'r Cynllun Fframwaith ar lefel leol ac felly'n cynnwys manylion ar gyfer yr ardal sydd ddim yn y Cynllun Fframwaith.

Yn y dinasoedd mawr defnyddir y Cynllun Datblygu Unedol. Mae e'n cynnwys yr un fath o benderfyniadau a'r Cynllun Fframwaith a'r Cynllun Lleol, ond mae e'n cyfuno'r ddau. Gall gynnwys penderfyniadau ar gyfer mwynau, hefyd.

Sefydliadau perthnasol

golygu

Mae dau fath o fframwaith cynllunio yng Nghymru: deddfwriaeth cynlluno sydd'n cael ei phenderfynu gan y llywodraeth a rhaglenni a fframweithiau polisi yr Undeb Ewropeaidd sy'n rhaid eu cyflawni. Ond mae'r Cynlliad Cenedlaethol Cymru yn gyfriofol am yr holl fframwaith gynllunio ar gyfer Gymru, gan gynnwys y Cynllun Gofodol a rheoli cynllunio, megis Canllawiau Cynllunio (Cymru) a Nodiadau Cyngor Technegol. Mae'r Awdurdodau Cynllunio Lleol yn cyfrifol am gynllunio ar gyfer eu hardal. Gall sefydliadau eraill, fel Cyngor Cefn Gwlad Cymru neu'r Asiantaeth yr Amgylchedd gael eu galw i gynorthwyo ar gyfer hynny.

Mae nifer o grwpiau hefyd sy'n rhoi gwybodaeth i'r bobl sy'n ymddiddori mewn cynllunio: naill ai'n cefnogi neu'n gwrthwynebu cynlluniau.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu